
Cartrefi i wenoliaid duon
Darganfyddwch yr hyn gallwch chi ei wneud i wrthdroi'r gostyngiad yn safleoedd nythu gwenoliaid duon isod!
Darparwch leoedd nythu i wenoliaid duon
Gallwch helpu i wrthdroi'r gostyngiad yn safleoedd nythu gwenoliaid duon drwy osod blychau neu friciau gwenoliaid duon ar eich cartref. Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ar sut i benderfynu a yw eich cartref yn addas a'r ystod o opsiynau sydd ar gael.
Ydy fy nghartref yn addas?
-
Mae angen bod blychau neu friciau gwenoliaid duon fod o leiaf 5 metr uwchben y ddaear.
-
Mae angen i'r blwch gael ei osod ar wal sy'n wynebu'r gogledd neu’r gogledd-ddwyrain. Mae waliau sy'n wynebu'r de’n yn mynd yn rhy boeth ac mae waliau sy'n wynebu'r gorllewin yn debygol o fod yn rhy agored i'r tywydd.
-
Mae angen llwybr hedfan clir ar y blwch er mwyn i wenoliaid duon allu hedfan i mewn ac allan.
-
Yn ddelfrydol, mae'n arfer da gosod y blychau o dan fondo, gan fod hyn yn atal unrhyw beth rhag glanio uwch eu pennau. Fodd bynnag, os oes gan y blwch gwenoliaid duon do ar oleddf, nid yw hyn bob tro’n angenrheidiol.

Briciau gwenoliaid duon
Briciau gwenoliaid duon yw'r opsiwn gorau o ran darparu safleoedd nythu i wenoliaid duon. Maent yn para am oes yr adeilad, yn rhad ac yn anamlwg.
Os nad yw briciau gwenoliaid duon yn opsiwn, mae blychau gwenoliaid duon yn opsiwn amgen gwych. Mae yna nifer o wahanol opsiynau i ddiwallu eich anghenion a'ch cyllideb.
-
Mae Action for Swifts yn creu ystod o flychau nythu, gan gynnwys rhai y gellir eu gosod i mewn i ddeunydd inswleiddio waliau allanol.
-
Mae Impeckable Nest Boxes yn creu blychau nythu gwydr ffibr a phren caled o ansawdd uchel â gwahanol ddyluniadau.
-
Mae Peak Nest Boxes yn cael eu hargraffu'n 3D allan o gyfuniad o flawd llif a blawd corn ac yn dod ag opsiwn i osod camera yn y blwch.

Blychau gwenoliaid duon
Galwyr gwenoliaid duon
Wrth osod bric neu flwch gwenoliaid duon, mae gosod system galw hefyd yn syniad da. Mae gwenoliaid duon yn hoffi nythu mewn man lle mae gwenoliaid duon eraill hefyd yn bodoli, felly mae galwr yn eu helpu i ddarganfod y blychau ac i nythu ynddynt.
-
Mae galwyr gwenoliaid duon wedi’u dylunio i chwarae galwadau gyda'r wawr a gyda'r hwyr rhwng mis Mai a mis Awst.
-
Unwaith y bydd gwenoliaid duon wedi nythu, nid oes angen chwarae galwadau rhagor a gellir symud y system galw i leoliad arall.

-
Mae gan Sheffield Swift Network dudalen ddefnyddiol ar y gwahanol alwyr sydd ar gael a sut i'w gosod.
Adnewyddu’n ofalus
Os oes gennych wenoliaid duon ar eich eiddo eisoes ac rydych yn bwriadu adnewyddu, mae nifer o ffyrdd y gallwch gadw'r tyllau nythu’n ddibynnol ar le mae nyth y gwenoliaid duon.
Mae gwenoliaid duon yn ffyddlon i'w safle ac yn dychwelyd i'w safle nythu bob blwyddyn. Hyd yn oed os oes blwch wedi’i osod ger lle’r oedd eu twll, bydd gwenoliaid duon yn aml yn ceisio canfod eu ffordd yn ôl i le wnaethant nythu'n flaenorol, a gallant niweidio eu hunain yn y broses.
Mae'n well cadw safle nythu o’i gymharu â gosod blwch newydd.
Cofiwch!
Peidiwch â gweithio ar y to yn ystod y tymor nythu rhwng mis Mai a mis Awst
Peidiwch ag atal mynediad gyda sgaffaldwaith
Cadwch dyllau mynediad neu addaswch eich gwaith ar y to er mwyn caniatáu i wenoliaid duon gael mynediad i'r nyth yn y dyfodol
Arweiniad adnewyddu Swift Conservation
Mae gan Swift Conservation arweiniad defnyddiol ynghylch cadw lleoedd nythu gwenoliaid duon wrth i chi wneud gwaith adnewyddu:
%20long.png)
