top of page
people walking past heather heathland and moorland habitats NPT LNP

Rhostir a Gweundir

Glaswelltir corsiog, rhostiroedd, gweundiroedd a ffriddoedd (coed cae)

Sefyllfa
Byd Natur y Rhostir a’r Gweundir yn CNPT

Mae Rhostiroedd a Gweundiroedd yn gynefinoedd ar gyfer oddeutu un rhan o bump o’r Rhywogaethau â Blaenoriaeth yn CNPT, ond dim ond cyfran fach ohonynt sydd mewn cyflwr da. Collwyd darnau helaeth o gynefinoedd oherwydd newid defnydd tir ac esgeulustod a heblaw am sector y gogledd, mae’r cysylltedd cyffredinol yn wael.

Mae glaswelltir corsiog a rhostir pori yn benodol wedi dioddef yn sylweddol ac mae llawer o rywogaethau a fu’n helaeth yn brin iawn bellach. Mewn rhai mannau, mae rhywogaethau anfrodorol ymledol yn broblem sylweddol. Nid oes digon o ddata ar gael ar hyn o bryd i asesu iechyd y cynefinoedd ffridd sydd ar ôl gennym, ond collwyd nifer ohonynt oherwydd planigfeydd coedwigaeth.

Oherwydd y materion hyn, aseswyd bod cadernid a sefyllfa byd natur rhostiroedd a gweundiroedd yn CNPT yn wael.

TROSOLWG

Mae’r cynefinoedd yn y categori cyffredinol hwn yn cynnwys glaswelltir corsiog, glaswelltir asidaidd /rhostir a gweundir a ffridd (coed cae).

Mae tirwedd ucheldir CNPT wedi newid yn sylweddol yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. Plannwyd conifferau ar lawer o’r gweundir a’r rhostir a fu unwaith mor helaeth a chafodd rhannau eraill eu haddasu er mwyn gwella tir pori. Fodd bynnag, mae rhai darnau pwysig o weundir ar ôl, yn enwedig yn sector gogledd y sir, e.e. y Gwrhyd, Sarn Helen. Glaswellt y Bwla, Peiswellt y Defaid a mathau eraill o laswellt neu hesg calchgas yw nodweddion amlycaf y cynefinoedd hyn yn aml, gydag ardaloedd o gorbrysgwydd rhostir sy’n cynnwys Grug a Llus. Mae’r Cracheithin a Melynog y Waun yn dal i oroesi mewn rhai mannau ac mae’r ardaloedd gwlypach yn aml yn cynnwys gweirdiroedd lliwgar o Lafn y Bladur.

Mae glaswelltir corsiog (gan gynnwys rhostir pori) yn gynefin penodol pwysig yn y categori hwn sy’n gallu cynnal cymunedau unigryw ac amrywiol o blanhigion, gan gynnwys Tamaid y Cythraul, Dant y Pysgodyn, Ysgallen y Ddôl, Tegeirian Brych y Rhos, Carwy Droellennog, y Clychlys Dail Eiddew a Gwlyddyn-Mair y Gors. Mae rhai metaboblogaethau o Fritheg y Gors i’w canfod ar rai glaswelltiroedd corsiog yn sector y gogledd. Lle ceir llaciau tra-fasig, gall y cynefinoedd hyn gynnwys Tafod y Gors, Triaglog y Gors a Briwydd y Fign, sydd i gyd yn rhywogaethau prin yn CNPT.

I raddau helaeth, mae cynefinoedd ffridd bellach yn blanigfeydd conifferau. Mae’r ffriddoedd hyn, lle maen nhw’n bodoli, yn bwysig ar gyfer rhywogaethau o adar megis y Gog ac infertebratau megis y Fritheg Werdd.

Mae’r ffawna rhostir a gweundir o bwys cadwraeth yn CNPT yn cynnwys yr Ysgyfarnog, yr Ehedydd, y Llinos, y Gog, y Wiber, Neidr y Gwair, y Pry Lleidr Cacynaidd a nifer o wenyn, megis Cardwenynen y Mwsogl.

Mae cadernid rhostiroedd a gweundiroedd yn CNPT o dan bwysau yn sgîl diffyg rheolaeth briodol, diffyg cysylltedd a rhywogaethau anfrodorol ymledol, e.e. Rhododendron, a choed Sbriws Sitka.

Heathland and Moorland Habitats in NPT (c) NPTC / NPT LNP
people walking past heather heathland and moorland habitats NPT

Camau Gweithredu ar gyfer adfer Cynefinoedd Rhostir a Gweundir yn CNPT

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.

Marsh Fritillary Euphydryas aurinia Richard Smith Species Heathland and moorland NPT LNP
Wahlenbergia hederacea Upper Melncwrt Valley 10e Charles Hipkin Ivy Leaved Bellflower NPT LNP
Adders RR NPT LNP Heathland and Moorland Species

BRITHEG Y GORS

Mae niferoedd Britheg y Gors yng Nghymru wedi dirywio’n sylweddol ac mae nifer mawr y poblogaethau a gollwyd yn CNPT yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf yn adlewyrchu’r darlun hwn. O ran ei chynefin yn y sir, mae Britheg y Gors yn ffafrio glaswelltir corsiog neu dir pori ar rosydd sy’n cynnwys Tamaid y Cythraul, sy’n porthi’r lindys, a phlanhigion sy’n darparu neithdar ar gyfer yr oedolion sy’n hedfan, e.e. Ysgall y Ddôl. Mae colli cynefinoedd addas, wedi’i ddilyn gan dorri cysylltedd rhwng metaboblogaethau, yn rhan fawr o’r dirywiad hwn, fwy na thebyg.

CLYCHLYS DAIL EIDDEW

Yn sgîl colli llawer o’i gynefinoedd brodorol yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, mae’r Cylchlys Dail Eiddw yn rhywogaeth sydd mewn perygl ac yn destun pryder. Yn CNPT, ceir hyd iddo mewn rhai cynefinoedd glaswelltir corsiog a rhostir heb eu gwella a hefyd ar dorlannau llaith uwchben nentydd a ffosydd mewn planigfeydd conifferau lle caiff ei amddiffyn rhag pori dwys. Mae sefyllfa a chadwraeth y rhywogaeth hyfryd hon wedi cael eu hanwybyddu yng Nghymru wrth iddi barhau i golli niferoedd yn sgîl colli cynefin. Mae gofyn bod y poblogaethau yn CNPT yn cael eu hystyried a’u rheoli’n ofalus.

GWIBER

Y Wiber yw’r unig neidr wenwynig yn y Deyrnas Unedig ond nid yw’n rhywogaeth ffyrnig. Mae gwiberod i’w canfod yn bennaf ar dir gwledig garw â chynefinoedd ymylol. Maen nhw’n amrywio o ran eu lliw ond mae ganddynt bob amser linell igam-ogam dywyll nodweddiadol ar hyd eu cefn. Y ffordd orau o gael hyd iddynt yw symud yn araf ar hyd ymyl llwybr trwy redyn ond hyd yn oed wedyn, bydd angen bod yn dawel iawn a chael llygaid craff i’w gweld nhw. Gwaetha’r modd, mae gwiberod yn dal i gael eu herlid i raddau yn CNPT.

Prosiectau ar Rostiroedd a Gweundiroedd yn CNPT

ASTUDIAETH ACHOS

Monitro a rheoli cadwraeth Britheg y Gors yn CNPT

Yn ôl y cofnodion hanesyddol, roedd Britheg y Gors i’w chanfod mewn llawer man yn CNPT hanner can mlynedd yn ôl, gyda chytrefi wedi’u gwasgaru yn sectorau gogledd a de’r sir. Ar yr adeg honno, roedd glaswelltiroedd corsiog â chyfoeth o rywogaethau, Tamaid y Cythraul, Ysgall y Ddôl, Tegeirian Brych y Rhos a rhywogaethau arwyddocaol eraill yn fwy cyffredin yn ein tirwedd nag y maent heddiw. Mae gallu Britheg y Gors i wasgaru yn gyfyngedig ac mae arni angen rhwydwaith o gynefinoedd a chytrefi cysylltiedig sy’n caniatáu rhywfaint o gyfnewid rhwng cytrefi sy’n arwahanol fel arall. Ar unrhyw un adeg yn y rhwydwaith hwn o fetaboblogaethau, gallai rhai cynefinoedd fod yn wag ond mae eu presenoldeb a’u potensial i gael eu cytrefu yn ffactor pwysig serch hynny o ran dynameg metaboblogaethau Britheg y Gors.  Mae’r cynefin glaswelltir corsiog sylweddol a gollwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf nid yn unig wedi dileu mannau bridio’r glöyn byw lliwgar hwn ond hefyd wedi torri’r cysylltiad rhwng cynefinoedd sy’n hanfodol bwysig ar gyfer gwasgariad a chynnal metaboblogaethau. Bydd sicrhau bod glaswelltiroedd corsiog addas ar gael mewn tirwedd â chysylltiadau priodol yn allweddol i ffyniant a chadwraeth Britheg y Gors yn CNPT.

O dan arweiniad Cadwraeth Gloÿnnod Byw a grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr trefnus, gwnaed ymdrech fawr i ddarganfod, arolygu a monitro safleoedd Britheg y Gors yn CNPT ac mewn ardaloedd cyfagos yn Sir Gaerfyrddin. Daeth yn amlwg fod Britheg y Gors wedi’i chyfyngu yn bennaf, os nad yn gyfan gwbl, i Gwm Dulais a Dyffryn Aman, yn sector gogledd y sir. Bob blwyddyn eir ati i fonitro safleoedd bridio hysbys a phosibl yn yr ardaloedd hyn er mwyn chwilio am weoedd larfâu ac asesu eu cyflwr. Mae Cadwraeth Gloÿnnod Byw hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru i adennill a rheoli glaswelltir corsiog addas ar gyfer Britheg y Gros yng Nghwm Dulais, ar dir o eiddo CNC lle plannwyd coed Sbriws Sitka neu lle cafwyd pori dwys yn y gorffennol.  Rhan bwysig o’r strategaeth rheoli cynefin ar hyd y cyfan oedd trefnu systemau pori cydnaws er mwyn cadw’r cynefinoedd mewn cyflwr ffafriol ar gyfer Britheg y Gors. Ar hyn o bryd, mae Britheg y Gors yn defnyddio 7 safle yn CNPT ac mae gennym nifer o safleoedd addas sydd heb eu cytrefu. Mae poblogaethau cryf yng Nghwm Dulais yng nghyffiniau Blaendulais ond mae’r poblogaethau mwyaf i’w canfod yn Nyffryn Aman, yn enwedig ger Tai’r Gwaith a Chwmgors. Drwy ddadansoddi cysylltedd, gwelir bod y cynefinoedd hyn yn rhan o rwydweithiau cymhleth, mwy sylweddol o fetaboblogaethau sy’n byw yn Nyfed a Phowys yn bennaf.

Marsh Fritillary Larval Web Tairgwaith NPT LNP
bottom of page