top of page
Baglan Energy Park Open Mosaic Habitat Brownfield NPT LNP

Cynefinoedd Mosaig Agored

Ar dir a ddatblygwyd yn y gorffennol, ar domenni, ar dir diwydiannol

Sefyllfa Byd
Natur yn y Cynefinoedd Mosaig Agored
yn CNPT

Mae cynefinoedd mosaig agored yn cynnal cyfran sylweddol o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT. Mae hyn, ynghyd â’r amrywiaeth aruthrol o rywogaethau sydd i’w canfod yn aml yn y cynefinoedd hyn, a’r nifer mawr o rywogaethau Adran 7 yn eu plith, yn golygu bod y cynefinoedd hyn yn rhai o’r adnoddau bioamrywiaeth pwysicaf yn y sir. Fodd bynnag, maen nhw o dan fygythiad yn sgîl ailddatblygu, dinistrio cynefinoedd a cholli rhywogaethau. Maen nhw hefyd yn agored i newidiadau olyniaethol yn sgîl ymlediad prysgwydd ar ffurf rhywogaethau prennaidd brodorol a rhywogaethau anfrodorol ymledol megis y Gynffon Las a’r Cotoneaster.

Ni ddylid bychanu rôl y cynefinoedd mosaig agored fel lloches i rywogaethau Adran 7 ac mae gofyn gweithredu ar frys i sicrhau atebion sy’n gydnaws â datblygu a chynnal eu bioamrywiaeth yn y dyfodol, e.e. dynodi ardaloedd lloches a gaiff eu gwarchod a’u rheoli er lles bioamrywiaeth.

Gan fod eu dyfodol yn ansicr, mae’n anodd asesu cadernid y cynefinoedd hyn yn yr hirdymor. Fodd bynnag, mae eu sgôr o ran priodweddau fel amrywiaeth, cwmpas a chysylltedd yn dda, felly aseswyd bod sefyllfa byd natur yn y tymor byr a chadernid y cynefinoedd mosaig agored yn CNPT, fel y maent ar hyn o bryd, yn dda. Bydd cynllunio gofalus a sensitif yn ofynnol er mwyn cynnal y sefyllfa hon yn y tymor hir.

TROSOLWG

Mae’r rhan fwyaf o barth arfordirol CNPT, yn fwy efallai nag unrhyw ran arall o Gymru, wedi cael ei newid yn sylweddol iawn yn sgîl datblygiad diwydiant trwm. O ganlyniad i hyn, collwyd darnau helaeth o gynefinoedd bioamrywiol, megis twyni tywod, corsydd arfordirol a ffeniau. Fodd bynnag, pan fydd y tir diwydiannol hwn yn cael ei glirio, gall y cynefinoedd mosaig agored a grëir gynnig cyfleoedd a lloches i rywogaethau anghyffredin. Mae Brenhinllys y Maes yn enghraifft dda o rywogaeth Adran 7 sydd fel arall yn brin yng Nghymru sydd wedi elwa yn sgîl creu cynefinoedd arfordirol, mosaig agored yn CNPT fel sydd wedi digwydd ym Mharc Ynni Baglan. Ymhlith y rhywogaethau nodedig eraill a geir yma, mae’r Gornchwiglen, y Llinos, y Gardwenynen Feinlais, y Glesyn Bach, y Gwibiwr Llwyd, Mwsogl Ditrichum ar Oleddf, Troellig yr Hydref, yr Edafeddog Lwyd, Penigan y Porfeydd, Caldrist y Gors, Pig-y-crëyr Ludiog, a’r Gorudd Melyn. Mae’r cynefin mosaig agored rhyfeddol hwn yn cynnal yr amrywiaeth mwyaf o rywogaethau yn CNPT, gan gynnwys nifer o rywogaethau Adran 7.  Ar ben hynny, mae cynefinoedd chwarel a thomenni mewndirol yn cynnig lloches i rywogaethau â blaenoriaeth a rhywogaethau Adran 7, megis y Wiber, Neidr y Gwair a nifer mawr o chwilod, bygiau daear, gwenyn unig a pheillwyr eraill.

Yn aml, dynodir bod y safleoedd hyn yn ‘dir llwyd’ ac maent felly yn agored i gael eu datblygu. Fodd bynnag, mae llawer o’r safleoedd hyn yn CNPT wedi eu dynodi’n Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINCs) er nad yw hyn bob amser yn eu hamddiffyn rhag datblygiad. Mae bygythiadau eraill yn cynnwys adfer amhriodol, plannu coed, plannu cnydau biodanwydd, diffyg rheolaeth, peidio â sylweddoli eu gwerth, a rhywogaethau anfrodorol ymledol.

Mae safleoedd mosaig agored yn gynefinoedd i chwarter y rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT, gan gynnwys 18 o rywogaethau Adran 7. Maen nhw’n lloches i nifer o rywogaethau sydd dan fygythiad ac maen nhw’n ased o ran cadwraeth bywyd gwyllt.

Open mosaic habitats in NPT
Baglan Energy Park Open Mosaic Habitat brownfield NPT LNP Nature

Camau Gweithredu ar gyfer adfer Cynefinoedd Mosaig Agored yn CNPT

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.

Shrill carder bee © Mark Hipkin NPT

© Mark Hipkin

Lapwing 4 © Barry Stewart Baglan Energy Park

© Barry Stewart

Basil Thyme Clinopodium acinos Charles Hipkin

© Charles Hipkin

Y GARDWENYNEN FEINLAIS

Yn Ne Cymru, mae CNPT yn gadarnle i’r wenynen brin iawn hon sydd i’w chanfod mewn dyrnaid o fannau yn unig yn y Deyrnas Unedig. Mae’n anodd ei hadnabod ond o graffu’n ofalus efallai y gwelwch y prif nodweddion: lliw llwydfelyn gwan, â band brown tywyll rhwng bonau’r adenydd a chynffon lliw sinsir. Mae’r breninesau’n hedfan yn gyflym iawn gan achosi suo main. Mae glaswelltiroedd arfordir CNPT yn ardal bwysig i’r rhywogaeth hon, sy’n ffafrio cynefinoedd blodau gwyllt, megis twyni tywod lle ceir planhigion â chorola hir, megis y Gorudd.

Y GORNCHWIGLEN

Mae cornchwiglod sy’n bridio yn brin ac yn prinhau yn y Sir, ac mae’r adar hyn i’w gweld yn fwy cyffredin ar eu taith ac yn ystod y gaeaf. Ni chofnodwyd eu bod yn bridio yn yr ucheldir yn ddiweddar ac mae’r safleoedd bridio wedi’u cyfyngu i ardaloedd ar yr arfordir, yn enwedig mewn cynefinoedd mosaig agored ar dir diwydiannol gynt, sy’n aml yn rhai dros dro. Roedd o leiaf 8 pâr yn bridio ar hen safle BP ym Mae Baglan yn 2019 ac mae’n debygol bod rhai yn bridio yn Llandarcy. Fodd bynnag, mae’r niferoedd wedi prinhau’n sylweddol ar y safleoedd hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r dirywiad cyffredinol yn niferoedd y cornchwiglod sy’n bridio ledled Cymru wedi cael ei gysylltu â newidiadau mewn polisïau ac arferion amaethu.

BRENHINLLYS Y MAES

Planhigyn bach hyfryd â blodau lliw fioled sy’n aelod o deulu’r saets sydd bellach yn brin iawn ym Mhrydain ac o dan fygythiad yng Nghymru. Yn rhywogaeth ddeheuol yn bennaf, fe’i cysylltir fel arfer â glaswelltir calchaidd ond mae wedi prinhau’n sylweddol yn y cynefin hwn ym Mhrydain dros y degawdau diwethaf o ganlyniad i wella glaswelltiroedd a phori dwys. O ran ei dosbarthiad, fe’i ceir ar yr arfordir yn unig yn CNPT lle mae’n rhywogaeth brin o laswelltir y twyni. Fodd bynnag, mae poblogaethau mawr o’r rhywogaeth hon i’w canfod mewn cynefinoedd mosaig agored ger Twyni Baglan ac efallai mai’r rhain yw’r poblogaethau mwyaf o’r rhywogaeth hon yng Nghymru. Datblygiad y safleoedd hyn yn y dyfodol fydd yr her sylweddol o ran cadwraeth y rhywogaeth hon yn CNPT a Chymru.

Prosiectau mewn cynefinoedd mosaig agored yn CNPT

ASTUDIAETH ACHOS

Tomen y Morfa

Tomen fawr o ddeunydd tirlenwi yw Tomen y Morfa a adeiladwyd yn bennaf â sorod o’r ffwrneisi a sgil-gynhyrchion diwydiannol eraill o Waith Dur Margam (Tata Steel bellach). Roedd y domen wreiddiol, heb ei leinio, sy’n dyddio’n ôl i’r 1970au, yn rhyddhau trwytholchion costig sylweddol, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn draenio i Weunydd Margam gerllaw. Pan gyflwynwyd rheoliadau llym ynghylch tirlenwi, cafodd y safle ei ddatgomisiynu yn y pen draw, ei gapio a’i orchuddio â leinin didraidd. Yn dilyn hynny, yn unol â’r rheoliadau amgylcheddol newydd cysylltiedig â’r rheoliadau cynllunio, dechreuwyd ar raglen o arolygon ecolegol (bioamrywiaeth) ac mae’r gwaith o adfer a datblygu’r safle mosaig agored hwn wedi cael ei fonitro a’i gofnodi bob blwyddyn ers hynny. Hyd yn hyn, cofnodwyd cyfanswm o 640 o rywogaethau ar Domen y Morfa a’r ardaloedd ymylol cyfagos. Mae’r rhain yn cynnwys mamaliaid (5), ymlusgiaid (5) adar (80), infertebratau (98) bryoffytau (71), ffyngau macroscopig (22), cennau (22) a phlanhigion fasgwlaidd (337).

Un o’r datblygiadau ecolegol mwyaf arwyddocaol ar y safle 93ha hwn yn ystod y ddau ddegawd diwethaf yw’r tywod sydd wedi cronni yno ar ôl cael ei chwythu o Draeth y Morfa a gweddillion y twyni a oedd i’r gorllewin o’r domen. Mae hyn wedi creu tirlun tebyg i dwyni sy’n parhau i esblygu ac sydd bellach yn cynnal casgliad cyfoethog ei rywogaethau o blanhigion fasgwlaidd. Yn eu plith mae enghreifftiau hynod o degeirianau megis Troellig yr Hydref, Tegeirian y Wenynen, Caldrist y Gors, y Galdrist Lydanddail, Tegeirian y Waun, Tegeirian-y-gors Cynnar a Thegeirian-y-gors Deheuol. Ymhlith y rhywogaethau eraill sy’n werth eu nodi mae Glesyn-y-gaeaf Deilgrwn, y Farchrawnen Fraith a dau neoffyt prin, sef y Llygwyn Had Garw a Gorudd Ffrainc.

Mae system o byllau a ffosydd ar y domen wedi’i chapio yn gynefin i amrywiaeth o rywogaethau dyfrol megis Crafanc-y-frân Feinddail, y Dyfrllys Bach a Rhawn yr Ebol, ac mae’r fflora datblygedig sy’n codi o’r dŵr yno yn cynnwys Cyrs, Llafrwyn, Llafrwyn Arfor, a Grawnllys-y-dŵr Rhosliw, ymhlith eraill.

Mae glaswelltir twyni, sy’n cynnwys rhywogaethau lliwgar megis Teim Gwyllt, y Blucen Felen, Pig y Crëyr, Pig yr Aran a’r Gwiberlys yn tyfu wrth droed y safle tirlenwi lle mae rhywogaethau gaeaf blynyddol, lled-sefydlog megis Peryn y Graig i’w canfod hefyd. Gweiriau bras megis Corsen Fach y Coed a’r Marchwellt Arfor yw’r nodwedd amlycaf ar ochr ddwyreiniol y domen. Ar y llaid tywodlyd gwlyb noeth i’r gorllewin o’r domen wedi’i chapio, mae cymuned hynod o ddiddorol wedi datblygu sy’n cynnwys Brwyn y Broga a Grisial-lys Ceudyllog.  Mae’r posibilrwydd o ddatblygu systemau llaciau twyni cyfoethog eu rhywogaethau ar Domen y Morfa yn rhywbeth a ddisgwylir yn eiddgar. Mae nifer o fannau eisoes yn cynnal cymunedau o Gorhelyg gyda Glesyn-y-gaeaf Deilgrwm a phoblogaethau hynod o ffwng prin y Cap Ffibr Cringoch.

Mae’r rhywogaethau o ffawna â blaenoriaeth sy’n gysylltiedig â Thomen y Morfa yn cynnwys y Gardwenynen Feinlais, y Gornchwiglen a’r Ysgyfarnog.

Marsh Helleborine NPT Local Nature Partnership
bottom of page