Cynefinoedd Arfordirol
Twyni tywod, morfeydd heli, aberoedd, tywod a llaid rhynglanw, strwythurau gwneud
Sefyllfa Byd
Natur yn y Cynefinoedd Arfordirol yn CNPT
Ar un adeg, roedd llain arfordirol CNPT rhwng Twyni Crymlyn a Thwyni’r Morfa yn cynnal ecosystem fioamrywiol â chysylltiadau da, gyda thwyni tywod, llaciau tywod a ffen arfordirol. Fodd bynnag, gwelwyd bod cynefinoedd cyfoethog eu rhywogaethau wedi dioddef colledion enbyd yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, yn bennaf o ganlyniad i ddatblygu diwydiannol. Gwaetha’r modd, mae llawer o’r hyn sy’n weddill hefyd mewn sefyllfa enbyd ac yn wynebu dyfodol ansicr, ac mae datblygu yn fygythiad sy’n parhau. O ganlyniad, mae’r cymunedau unigryw o fywyd gwyllt a’r strwythurau twyni tywod symudol dynamig sydd wedi llwyddo i oroesi yn dal mewn sefyllfa fregus. Mae’r gostyngiad a welwyd yn ddiweddar ym mhatrwm symudiadau Pibyddion y Tywod (ac adar hirgoes eraill) sy’n gaeafu yn Nhwyni Crymlyn hefyd yn achosi pryder.
​
Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y newidiadau ym mioamrywiaeth a chadernid ecosystemau arfordirol yn CNPT: (i) diffyg cydnabyddiaeth yn y gorffennol o bwysigrwydd safleoedd megis Twyni Crymlyn a Thwyni Baglan, (ii) diffyg rheolaeth briodol ar gynefinoedd sy’n cynnwys rhywogaethau â gwerth cadwraeth uchel a (iii) peidio â rheoli gweithgareddau hamdden mewn ardaloedd sensitif megis mannau clwydo adar hirgoes yn y parthau rhynglanw. Ar ben hynny, mae nifer o rywogaethau anfrodorol ymledol wedi ymsefydlu yn Nhwyni Crymlyn, gyda rhywogaethau megis Rhosyn Japan, Helygen y Môr, sawl rhywogaeth o Gotoneaster, Eurwialen Canada, Blodyn Mihangel a’r Dderwen Fythwyrdd ymhlith y rhai mwyaf arwyddocaol. Yn wyneb hyn i gyd, aseswyd bod sefyllfa byd natur a chadernid ecosystemau arfordirol yng Nghastell-nedd Port Talbot mewn cyflwr gwael.
TROSOLWG
Mae ecosystemau arfordirol yn darparu cynefinoedd ar gyfer traean o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT ac maent yn un o’r adnoddau pwysicaf o ran bioamrywiaeth yn y sir. Mae eu nodweddion pwysig yn cynnwys systemau twyni symudol lled-sefydlog Twyni Crymlyn a thwyni Baglan a’r Morfa. Mae’r rhywogaethau sydd i’w canfod yma, megis y Llygwyn Ariannaid, yr Helys Pigog, y Murwyll Arfor, Celynnen y Môr, y Taglys Arfor, Llaethlys y Môr a Chanclwm Ray yn dibynnu ar amgylcheddau tywod symudol ac maent yn gyfyngedig i’r cynefinoedd hyn. Mae’n werth nodi hefyd fod poblogaeth fach o’r Hesgen Fannog, sef rhywogaeth brin sy’n prinhau, i’w chanfod ar Dwyni Baglan, yn yr unig safle y gwyddys amdano ym Morgannwg. Gwaetha’r modd, mae’r boblogaeth hon o dan fygythiad yn sgîl ymlediad coed Gwern a Helyg.
​
Mae llaciau twyni yn gwneud cyfraniad mawr i fioamrywiaeth ecosystemau arfordirol ac roeddent i’w canfod yn helaeth yn systemau twyni CNPT ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mor ddiweddar â 40 mlynedd yn ôl roeddent yn nodwedd bwysig o Dwyni Crymlyn a Thwyni Baglan. Bryd hynny, roedd Tegeirian y Fign Galchog, Tegeirian-y-gors Cynnar, Caldrist y Gors a Llafnlys Tafod y Neidr i’w gweld yn rheolaidd yn Nhwyni Crymlyn. Fodd bynnag, mae’r llaciau twyni, cyfoethog eu rhywogaethau wedi diflannu i bob pwrpas yn CNPT, yn bennaf o ganlyniad i newidiadau olyniaethol ac esgeulustod, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau hyn bellach yn eithriadol o brin yn y sir. Mae darn bach o lac twyni sy’n cynnwys poblogaeth fawr o Galdrist y Gors yn dal i oroesi yn Nhwyni Baglan ond mae’r boblogaeth hon hefyd o dan fygythiad yn sgîl olyniaeth prysgwydd helyg.
​
Tan yn ddiweddar, mae’r ardaloedd rhynglanw yn Nhwyni Crymlyn wedi bod yn fan bwydo a chlwydo ar gyfer y niferoedd o Bibyddion y Tywod a Chwtiaid Torchog, o bwysigrwydd cenedlaethol, sy’n gaeafu yno. Gwaetha’r modd, mae mwy a mwy o bobl yn mynd â’u cŵn am dro ar hyd y traethau hyn ac mae hyn bellach yn dylanwadu ar symudiadau ac ymddygiad yr adar hyn ac mae’n ymddangos eu bod wedi troi cefn ar y mannau clwydo a ffafrid ganddynt.
​
Mae nifer o bryfed hynod i’w canfod mewn cynefinoedd arfordirol yn CNPT, gan gynnwys nifer o loÿnnod byw megis y Gweirlöyn Llwyd, Iâr Fach y Fagwyr, y Gwibiwr Llwyd, y Fritheg Werdd, y Glesyn Bach a’r Argws Brown. Ymhlith y rhywogaethau eraill arwyddocaol mae’r Gardwenynen Feinlais, y Wenynen Hirgorn a’r Chwilen Olew Ddu. Cofnodwyd chwilen y draethlin, Nebria complanata yn rheolaidd yn Nhwyni Crymlyn yn y gorffennol, ond nis gwelwyd yno yn ddiweddar.
​
Mae morfeydd heli yn werthfawr o ran bioamrywiaeth arfordirol. Ceir yr unig ddarn helaeth o’r cynefin hwn yn CNPT yng nghyffiniau aber afon Nedd, lle ceir cymunedau amrywiol sy’n cynnwys Wermod y Môr, Grug Môr, Lafant-y-môr a’r Cedowydd Suddlon. Mae estyniad hir y llanw ar afon Nedd hefyd yn gyfrifol am ddarn helaeth o halwyndir sy’n cael ei olchi gan y môr rhwng Castell-nedd a Bae Baglan. Ar adeg y llanw uchaf, mae dŵr lled hallt yn boddi’r fignen bori rhwng Castell-nedd ac Aberdulais ac mae hyn yn dylanwadu ar amrywiaeth a chyfansoddiad y cynefin trawiadol ac unigryw hwn.
Camau gweithredu ar gyfer adfer Cynefinoedd Arfordirol yn CNPT
Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.
PIBYDD Y TYWOD
​Adar hirgoes bach yw Pibyddion y Tywod sy’n bridio ar y twndra arfordirol yn rhan uchaf yr Arctig. Yn ystod y gaeaf, maen nhw’n mudo tua’r de ac mae nifer sylweddol ohonynt yn treulio’r gaeaf ym Mhrydain, yn enwedig lle ceir traethau arfordirol â thraethlinau tywodlyd hir. Maen nhw’n dibynnu ar forlinau lle gallant glwydo a bwydo ar gramenogion, molysgiaid a mwydon morol. Yn ddiweddar, mae Pibyddion y Tywod sy’n gaeafu yn y Deyrnas Unedig wedi prinhau ac mae’r rhywogaeth hon bellach ar y rhestr ambr. Gwelwyd niferoedd sy’n bwysig yn genedlaethol ym Mae Abertawe rhwng diwedd yr haf a’r gwanwyn a than yn ddiweddar, roeddent yn nodwedd hynod o’r rhannau o Dwyni Crymlyn nad aflonyddwyd arnynt. Gwaetha’r modd, mae aflonyddu parhaus a direolaeth ar boblogaethau gaeaf yn cael effaith drychinebus ar yr heidiau sy’n clwydo ac yn bwydo yn CNPT.
MURWYLL ARFOR
Mae’r Murwyll Arfor, un o nifer bach o blanhigion Canoldirol sydd i’w canfod yng Nghymru, yn hysbys ar dwyni tywod yr arfordir yn CNPT ers oddeutu 150 o flynyddoedd. Mae’n rhywogaeth Adran 7 sy’n brin yn genedlaethol ac yn blanhigyn Ewropeaidd endemig sy’n tyfu ar ei ffin ogleddol fyd-eang yn nhwyni tywod arfordir CNPT. Mae’r Murwyll Arfor i’w ganfod mewn cymunedau tywod symudol, mae’n gyfyngedig i’r cymunedau hyn ac mae angen y cynefin arbenigol hwn yn benodol arno yn yr ardal hon. Mae meintiau poblogaeth y planhigyn deniadol hwn wedi amrywio’n fawr dros y degawdau am resymau nad ydym yn eu deall yn llwyr. Gallai stormydd sy’n eu gorchuddio â thywod a’r cwningod sy’n eu pori fod yn rhan o hynny. Mae’r boblogaeth enfawr o Furwyll Arfor a gafwyd yn Nhwyni Crymlyn yn y 1980au wedi prinhau i lond llaw o blanhigion unigol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae poblogaethau mwy yn hysbys yn y systemau twyni gweddilliol rhwng Baglan a Thomen y Morfa.
Y GLESYN BACH
Dyma loÿnnod byw lleiaf y Deyrnas Unedig ond gellir gweld nifer mawr ohonynt mewn rhai mannau. Mae rhan uchaf eu hadenydd yn dywyll ag arlliw o las ac oddi tanynt yn frown-las golau â smotiau du amlwg; nid oes unrhyw oren arnynt fel y Glesyn Cyffredin. Maent yn dibynnu’n llwyr ar y Blucen Felen fel planhigyn bwyd i’r lindys. Gwelir Gleision Bach ar hyd llain arfordirol CNPT ac mewn rhai safleoedd mewndirol, yn enwedig lle mae digonedd o’r Blucen Felen.
Prosiectau yn y Cynefinoedd Arfordirol yn CNPT
ASTUDIAETH ACHOS
Rheoli SoDdGA Twyni Crymlyn
Pan ddatblygodd Prifysgol Abertawe Gampws y Bae ar dir llwyd i’r dwyrain o’r ddinas, derbyniodd yn ogystal gyfrifoldeb am SoDdGA Twyni Crymlyn gerllaw. Mae hon yn un o’r ardaloedd olaf sydd heb ei datblygu ym Mae Abertawe, ac fe’i dynodwyd oherwydd ei chasgliadau amrywiol o fflora ac infertebratau twyni tywod a morfa heli, sy’n cynnwys rhai rhywogaethau prin iawn, megis Tegeirian y Fign Galchog, Wermod y Maes a Chwilen y Draethlin. Er nad yw’r safle wedi’i ddatblygu, mae’n dal i wynebu nifer o broblemau, gan gynnwys presenoldeb rhywogaethau ymledol, a diffyg pori a rheoli yn y gorffennol. Rhosyn Japan yw’r rhywogaeth ymledol fwyaf helaeth a thrafferthus, ond cofnodwyd mwy na 50 o blanhigion anfrodorolyn y twyni, ac mae Helygen y Môr, y Dderwen Fythwyrdd, Cotoneaster, Eurwialen Gynnar, Blodyn Mihangel a Chlymog Japan i gyd yn cael effaith (ac yn bygwth ymledu’n llawer ehangach). Er bod y safle wedi bod yn gyrchfan erioed i bobl leol yn mynd â’u cŵn am dro, mae’r niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf a chan fod 2500 o fyfyrwyr yn byw ar y campws bellach, mae’r perygl o aflonyddu ar fywyd gwyllt wedi cynyddu’n sylweddol. Cwningod yw’r unig anifeiliaid sy’n pori ar y safle a chan nad oedd dim gwaith rheoli’n digwydd cyn i’r campws agor, mae’r prysgwydd a’r coetir wedi ehangu’n sylweddol ers dynodi’r safle, yn enwedig yn yr ardaloedd gwlypach. Collwyd Tegeirian y Fign Galchog yn sgîl yr olyniaeth hon ac ni chofnodwyd Chwilen y Draethlin ar y safle ers 1997.
​
I ddechrau, bu’r gwaith rheoli’n canolbwyntio ar reoli rhywogaethau ymledol, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r rheiny a allai achosi’r difrod mwyaf, lle gallai rheolaeth gynnar atal problem fwy yn y dyfodol. Bu cynigion cynnar i balu Rhosyn Japan â llaw yn aflwyddiannus, gydag ymdrech fawr yn esgor ar ganlyniadau cyfyngedig – gall y rhisomau ymledu am fwy na metr o’r rhiant blanhigyn, a bydd unrhyw ddarn bach sy’n cael ei adael ar ôl yn aildyfu. Y flaenoriaeth bellach yw chwistrellu lleiniau bach (<2m), ynysig o rosod cyn iddynt dyfu’n rhy fawr, tra bod ardaloedd helaethach yn cael eu palu a’u claddu yn y fan a’r lle gan ddefnyddio peiriant cloddio. Mae hyn nid yn unig yn lleihau niferoedd Rhosyn Japan, ond hefyd yn creu darnau gwerthfawr o dywod moel ar gyfer eu cytrefu gan fywyd gwyllt y twyni. Eir ati i chwilio am aildyfiant a’i gloddio allan â llaw.
​
Yn ogystal â chael gwared ar rywogaethau ymledol, gwnaed ymdrech hefyd i leihau ymlediad coetir a phrysgwydd brodorol ar laswelltir y twyni, gyda gwirfoddolwyr yn torri coed bedw, helyg, gwern ac eithin ifanc ar hyd ymyl y coetir, er bod hyn yn digwydd ar raddfa gymharol fach. Ehangwyd y gwaith hwn yn sylweddol yn 2020 gyda chymorth prosiect Twyni ar Symud Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda 0.5ha o goetir yn cael ei glirio yn y llaciau tywod gwlyb lle gwelwyd tegeirian y fign galchog ddiwethaf. Cafodd coed eu cwympo (a’u darnio ar gyfer biomas) cyn crafu a chodi’r pridd a’r sborion dail a oedd wedi cronni, symud y bonion a chreu llawr tywod moel lle bydd llifogydd tymhorol yn digwydd. Mae cynlluniau i greu llac newydd mewn ardal sydd ar hyn o bryd wedi’i gorchuddio gan Rosod Japan ac os bydd y gwaith hwn yn llwyddiannus, bydd modd ailgyflwyno Tegeirian y Fign Galchog gobeithio. Mae gwaith Wardeniaid a chynyddu ymwybyddiaeth (trwy deithiau cerdded, digwyddiadau a chodi arwyddion) yn helpu i leihau unrhyw aflonyddu, ac mae cynllun i gyflwyno parthau mynediad i gŵn. Mae lleoliad y traeth a’r cyfeiriad y mae’n ei wynebu yn golygu bod llawer iawn o sbwriel yn casglu ar hyd y lan sy’n ymestyn am 1.5km. Cynhelir ymgyrchoedd glanhau’r traeth yn rheolaidd a gwaredir mwy na 100kg o wastraff bob mis.
​
Rhaid diolch i’r holl wirfoddolwyr o’r brifysgol a’r gymuned ehangach, i brosiect Twyni ar Symud ac i Brosiect B-Lines Buglife sydd wedi helpu i dalu am gladdu Rhosyn Japan.