top of page
view from tower colliery of Vale of Neath 6.jpg

Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Asesu cyflwr byd natur yw’r cam cyntaf tuag at sicrhau amgylchedd iach, cynaliadwy, a lle i fyw a fydd yn ein hysbrydoli ni a chenedlaethau’r dyfodol yn CNPT. Mae’r camau gweithredu a awgrymir yn y ddogfen hon yn dangos y ffordd i gyflawni hynny; ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur.

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â PNL CNPT.

Deptford pink Dianthus armeria NPT CBC.JPG

Camau gweithredu ar gyfer adfer pob cynefin yn CNPT

Mae’r camau gweithredu canlynol yn berthnasol i bob cynefin ar draws CNPT ac fe’u rhestrir yma i osgoi eu hailadrodd. Ar gyfer camau gweithredu cynefinoedd penodol, cliciwch yma.

Camau gweithredu ar gyfer categorïau penodol

Cliciwch ar y dolenni isod i archwilio'r camau gweithredu ar gyfer pob categori.

Gefndirol

n 2001, lansiodd Fforwm Bioamrywiaeth CNPT (a adwaenir bellach fel Partneriaeth Natur Leol CNPT) ei Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer 2001-2005, a oedd yn cynnwys manylion a chynlluniau gweithredu ar gyfer 80 o rywogaethau a 15 o gynefinoedd. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o’r Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol a gynhyrchwyd yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig bryd hynny, ychydig iawn o’r targedau a gyflawnwyd ac yn y degawdau ers hynny, nid yw bioamrywiaeth wedi ffynnu ar lefel ranbarthol na chenedlaethol. Mewn gwirionedd, mae llawer o boblogaethau bywyd gwyllt pwysig a’u cynefinoedd wedi dioddef colledion sylweddol. Eto i gyd, mae amrywiaeth o gynefinoedd â blaenoriaeth i’w canfod o hyd yn CNPT, gan gynnwys 17 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae’r sir gyfan yn cynnwys nifer sylweddol o rywogaethau Adran 7 a rhywogaethau eraill â blaenoriaeth ac iddynt werth lleol a chenedlaethol.

 

Mae’r adnoddau gwerthfawr hyn, sy’n mynd yn brinnach, yn haeddu ein sylw ac er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, gwelwyd newid sylweddol yn y gwaith cofnodi bywyd gwyllt yn ardal CNPT yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Bu hyn o gymorth i ddatblygu cronfa ddata fawr o gynefinoedd a rhywogaethau sydd, yn ei thro, wedi caniatáu i ni ddeall yr enillion a’r colledion o ran bioamrywiaeth yn ardal CNPT. 

 

Ar yr adeg hon, mae angen i ni ddeall pa mor dda neu pa mor wael y mae natur yn ymdopi yn CNPT er mwyn i ni allu amddiffyn yr amgylchedd naturiol, cadw ein mannau gwyllt a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Asesu cyflwr byd natur yw’r cam cyntaf tuag at sicrhau amgylchedd iach, cynaliadwy, a lle i fyw a fydd yn ein hysbrydoli ni a chenedlaethau’r dyfodol yn CNPT. Mae’r camau gweithredu a awgrymir yn y ddogfen hon yn dangos y ffordd i gyflawni hynny; ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur.

bottom of page