top of page
22020825 Meadow 13.jpg

Gwarchod Natur

Mae CNPT dros Fywyd Gwyllt yn is-grŵp newydd ar gyfer Partneriaeth Natur Leol CNPT sydd â'r nod o ymgysylltu â grwpiau cymunedol ac unigolion brwdfrydig sydd am wneud gwahaniaeth i fyd natur yn CNPT, ond sydd efallai angen help llaw i ddechrau arni. Rydym yn cyfarfod unwaith bob 3 mis i drafod ein rhywogaethau a chynefinoedd pwysig yn CNPT, rhoi cyngor i unrhyw un sydd am ddechrau prosiect, a rhoi syniadau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau y gallwch chi eu trefnu neu gymryd rhan ynddynt gyda'ch cymunedau. Mae hefyd yn lle gwych i gysylltu â phobl eraill yn CNPT sy’n pryderu am fyd natur ac am wneud ffrindiau newydd! Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am fywyd gwyllt ac ecoleg Cymru, eisiau cwrdd â phobl o'r un meddylfryd yn eich ardal neu fynd ati i wirfoddoli'n lleol, dewch i'n cyfarfod nesaf!

Cyfarfodydd blaenorol

wildlife survey grass identification RR.jpg

Ymuno

bottom of page