top of page
Glantawe Swift Tower Will Nash 4_edited.jpg

Sut gallwch
chi helpu?

Mae’r wefan hon yn disgrifio sut gall pawb ohonom weithredu dros natur yn CNPT. Mae aelodau Partneriaeth Natur Leol CNPT yn gweithio’n galed i helpu i adfer natur yn CNPT ond nid dyna ddiwedd y stori. Mae cadwraeth natur yn dechrau wrth ein traed ac mae camau y gall pawb eu cymryd, ble bynnag neu pwy bynnag ydyn ni, i helpu i warchod treftadaeth naturiol CNPT. Yn ogystal â’r camau a ddisgrifiwyd eisoes yn y ddogfen hon, mae’r adran hon yn awgrymu camau gweithredu y gallai pawb ohonom eu cymryd yn unigol i helpu i wella Sefyllfa Byd Natur yn CNPT. Edrychwch ar y cynlluniau gweithredu i weld beth gallech chi ei wneud i helpu. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o'r camau gweithredu, cysylltwch â ni.

LNP Grant Fund Flyer (297 x 180 mm) (303 x 151 mm) (1).png

Cyfleoedd gwirfoddoli yn CNPT.

Mae rhai o'r cyfleoedd gwirfoddoli presennol sydd ar gael yn CNPT i'w gweld isod - os oes un ohonynt at eich dant, cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth.

Afan Environment Volunteers NPT LNP Nature Recovery

Diwrnodau gwaith ar ddydd Mercher cyntaf y mis yng Nghwm Afan, gan gynnwys rheoli cynefinoedd ac arolygon bywyd gwyllt.

Bryncoch Environment Group

Gweithgareddau natur yn ardal Bryncoch, gan gynnwys patrolau llyffantod a chasglu sbwriel.

Crymlyn Burrows Volunteering NPT LNP

Dwyni Crymlyn

Monitro planhigion prin, glanhau traethau, rheoli rhywogaethau goresgynnol. Cadwch lygad am ddigwyddiadau sydd ar ddod yma.

Friends of Craig Gwladus

Partïon gwaith a digwyddiadau gwirfoddolwyr ym Mharc Gwledig Craig Gwladys.

Vale of Glamorgan and Bridgend Bat Group NPT LNP

Arolygon a gwaith ymchwil ystlumod sy'n gysylltiedig â'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod.

Lost Peatlands NPT LNP

Prosiect Adfer Mawndiroedd

Arolygon bywyd gwyllt, cynorthwyo gyda thasgau cadwraeth a chefnogi mewn digwyddiadau.

Afan Angling and Conservation Group NPT LNP

Rheoli afon Afan, gan gynnwys gwaith i ddileu rhwystrau i fudo pysgod.

Bryn Residents Action Group NPT LNP

Grwpiau gwaith ym mhentref Bryn ac o'i gwmpas, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Leol Tomen y Bryn.

Woodland Trust Coed Cadw NPT LNP

Coed Cadw

Gweithgareddau rheoli coetiroedd yng nghoetiroedd Coed Cadw yn y sir.

Friends of Gnoll Park NPT LNP

Partïon gwaith a digwyddiadau gwirfoddolwyr ym Mharc Gwledig Gnoll

Gower Ornithological Society NPT LNP

Teithiau cerdded, sgyrsiau ac arolygon sy'n canolbwyntio ar adar yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Working with Nature NPT

Gweithgareddau natur a gwirfoddoli ar draws CNPT.

Buglife Cymru

Nod prosiect 'llinellau pryfed' CNPT yw mynd i’r afael â’r dirywiad yn ein pryfed peillio trwy greu rhwydwaith o linellau pryfed sy’n cysylltu cynefinoedd sy'n gyfoeth o flodau gwyllt ar draws CNPT.

Butterfly Conservation NPT LNP

Arolygon Britheg y Gors a rheoli cynefinoedd yn ardal Cwm Dulais.

Coed Lleol NPT LNP Partner.

Coed Lleol

Gweithdai a gwirfoddoli mewn safleoedd ar draws CNPT.

Friends of Jersey Park NPT LNP

Partïon gwaith a digwyddiadau gwirfoddolwyr ym Mharc Jersey

NPT Council  NPT Wildlife Logo

​Bywyd Gwyllt Cyngor CNPT

Lle i ddarganfod rhagor am fywyd gwyllt a natur yng Nghastell-nedd Port Talbot. 

YN Y GYMUNED

Oes gennych chi ddiddordeb angerddol mewn helpu eich cymuned i ddod yn lle gwell ar gyfer pobl a natur? Cynigir rhai syniadau isod.

Ymunwch â grŵp ‘Gwarchod Natur’

Mae Gwarchod Natur yn un o is-grwpiau Partneriaeth Natur Leol CNPT sy’n cyfarfod bob tri mis. Nod y grŵp yw cynnig cyngor a chanllawiau ynghylch y camau y gallech chi a’ch cymuned leol eu cymryd i helpu eich cymdogion ym myd natur. Ymunwch â ni i gael syniadau ac ysbrydoliaeth, o arolygon gloÿnnod byw i reoli dolydd.

Strydoedd sy’n Caru Gwenyn yn CNPT

Allech chi weithio gyda’ch cymdogion i greu Stryd sy’n Caru Gwenyn? Mae Cyngor CNPT wedi creu canllaw i’ch helpu i weddnewid gerddi ffrynt, blychau ffenestri, blaenau siopau a mannau cymunedol er mwyn annog pryfed peillio i ymweld â’ch stryd a byw yno. I gael gwybod rhagor, cysylltwch â’r tîm ar e-bost.

Maeddu Jac y Neidiwr

Yn ystod misoedd yr haf, mae Jac y Neidiwr, sy’n rhywogaeth anfrodorol ymledol, yn ymddangos ar hyd ein hafonydd. Er bod y planhigyn hwn yn hardd iawn mae’n bygwth ein cynefinoedd, gan ei fod yn drech na rhywogaethau o blanhigion brodorol ac yn dod i ormesu ardaloedd helaeth. Gallwch helpu i amddiffyn cynefinoedd sydd dan fygythiad trwy drefnu sesiynau Maeddu Jac y Neidiwr yn y gymuned. Yn rhyfedd iawn, mae’r gwaith maeddu (codi’r planhigyn wrth ei wreiddiau, neu ei fwrw i’r llawr) yn dasg hawdd sy’n llonyddu’r meddwl!

Priffyrdd Draenogod

Un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu draenogod yn CNPT yw cael eu hynysu oddi wrth ddraenogod eraill gan ffensys, waliau a ffyrdd prysur. Gallech chi helpu’r draenogod yn eich cymdogaeth trwy weithio gyda’ch cymdogion i greu ‘Priffordd Draenogod’ – a’r cyfan sydd angen ei wneud yw creu twll bach yn ffens eich gardd! Mae llawer o wybodaeth am sut gallech chi wneud hyn ar gael yma.

Rhododendron clearance NPT Local Nature Partnership (c) Ed Tucker
Pond Dipping NPTC NPT LNP

YN YR YSGOL

Ydych chi’n rhiant neu’n addysgwr sydd am annog plant i ymgysylltu â natur yn CNPT? Nodir isod restr o gamau y gallech eu cymryd er mwyn bod yn rhan o brosiectau Partneriaeth Natur CNPT a helpu natur yn CNPT.

Caru Gwenyn CNPT– Ar Ymyl y Ffordd

Gallwch helpu Cyngor CNPT i reoli lleiniau ymyl ffordd a glaswelltiroedd ar gyfer blodau gwyllt trwy fonitro ardaloedd yn eich ward i’n helpu ni i benderfynu a yw ein dull rheoli yn gweithio. Mae gennym nifer o awgrymiadau am weithgareddau y gallech eu gwneud gyda’r plant yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored i’n helpu ni i ddysgu mwy am iechyd y glaswelltir. Cysylltwch â’r tîm yn y cyfeiriad i gael hyd i’r safle Caru Gwenyn CNPT agosaf i chi.

Caru Gwenyn CNPT– Ar Dir yr Ysgol

Oes yna lecyn ar dir eich ysgol sy’n cael ei danddefnyddio? Allech chi greu dôl blodau gwyllt neu laswelltir yno? Mae hwn yn brosiect gwych y gall plant o bob oed fod yn rhan ohono, o gynnal arolygon er mwyn gweld pa rywogaethau o blanhigion sy’n bresennol a monitro’r pryfed peillio, i greu posteri sy’n rhoi gwybod i bobl am eich dôl. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw clustnodi eich llecyn, rhoi’r gorau i dorri’r gwair yno rhwng Ebrill ac Awst ac, yn bwysig iawn, casglu’r torion a’u compostio er mwyn cadw lefel y maetholion yn y pridd yn isel. Bydd torri’r ymylon yn golygu bod y lle’n edrych yn daclus a bydd arwyddion sy’n egluro beth rydych chi’n ei wneud a pham rydych chi’n ei wneud o gymorth i ledaenu’r neges.

Mawndiroedd Coll De Cymru

Wyddech chi fod mawndiroedd (mawnogydd) yn storio dwywaith cymaint o garbon â choedwigoedd? A bod llawer o’r cynefinoedd arbennig hyn yn CNPT? Mae Prosiect y Mawndiroedd Coll ar waith tan 2025 ac mae’n gweithio i adfer ardal helaeth o fawndir ar dir uchel yn CNPT a RhCT. Gallai eich ysgol gynnal prosiect i ddysgu mwy am fawndiroedd neu hyd yn oed greu ei gardd gorsiog ei hun! Cysylltwch â e-bost i gael rhagor o wybodaeth.

SOS – Arbed ein Gwenoliaid Duon

Mae’r Wennol Ddu sgrechlyd ryfeddol yn ymweld â CNPT yn ystod yr haf ond gwaetha’r modd mae’r aderyn hwn, sydd ar y rhestr goch, yn prinhau ym mhob rhan o Gymru. Tybir mai colli safleoedd nythu sydd wrth wraidd hyn yn rhannol, wrth i adeiladau gael eu hadnewyddu yn unol â safonau modern. Gallai darparu blychau nythu neu frics Gwennol Ddu yn rhan o adeiladau addas helpu i wrthdroi’r patrwm hwn. Tybed a allech chi ddarparu blychau nythu ar gyfer Gwenoliaid Duon (neu adar eraill sy’n nythu ar dai megis Gwenoliaid y Bondo) ar eich adeiladau ysgol? Mae angen eu gosod 5m uwchlaw’r ddaear gyda llwybr hedfan clir i mewn i’r blwch. Gallwch gynyddu’r siawns y bydd Gwenoliaid Duon yn cael hyd i’r blychau trwy chwarae sgrech y Wennol Ddu i’w denu nhw! Cofiwch roi gwybod i ni os bydd Gwenoliaid Duon yn nythu yn eich to.

​

YN Y GWAITH

Ydych chi’n fusnes sydd am weithredu ar eich cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol? Mae sawl ffordd y gallwch wneud eich rhan i helpu natur yn CNPT.

Cefnogi un o Brosiectau Partneriaeth Natur Leol CNPT

Mae gan PNL brosiectau y gallech ymwneud â nhw trwy gyllido neu wirfoddoli. Er enghraifft, bu Runtech yn helpu’r PNL yn ddiweddar trwy gynnal diwrnod adeiladu tîm yn gwaredu Jac y Neidiwr ymledol yng Ngwarchodfa Natur Leol Tomen y Bryn. Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut gallech chi helpu, cysylltwch â e-bost.

Caru Gwenyn CNPT – Ar eich Safle

Ydych chi’n rheoli unrhyw leiniau glas neu fannau gwyrdd eraill? Beth am ddechrau eu rheoli fel lleiniau blodau gwyllt? Gall newid yr adeg pan fyddwch yn torri’r gwair fod yn gam syml sy’n cael effaith fawr ar fioamrywiaeth y lleiniau hyn. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw clustnodi eich llecyn, rhoi’r gorau i dorri’r gwair yno rhwng Ebrill ac Awst a chasglu’r torion a’u compostio er mwyn cadw lefel y maetholion yn y pridd yn isel. Bydd torri’r ymylon yn golygu bod y lle’n edrych yn daclus a bydd arwyddion sy’n egluro beth rydych chi’n ei wneud a pham rydych chi’n ei wneud o gymorth i ledaenu’r neges. Peidiwch â phlannu llwyni anfrodorol fel Cotoneaster.

Rheoli tir gan gadw natur mewn cof

​Gallwch helpu bywyd gwyllt lleol trwy roi’r gorau i ddefnyddio chwynladdwyr a phlaladdwyr, osgoi clirio/rheoli prysgwydd a choed pan fydd adar yn nythu a chreu lle ar gyfer natur ar adeiladau, er enghraifft, trwy osod blychau nythu ar gyfer adar ac ystlumod. Gall y camau bychain hyn gael effaith fawr yn lleol. Mae defnyddio coed a llwyni brodorol i greu perthi ar hyd terfynau yn ffordd arall o greu mwy o gynefin ar eich tir. Beth am alw’r staff ynghyd i drafod syniadau?

Seilwaith Gwyrdd

Wyddech chi fod nodweddion seilwaith gwyrdd megis toeon gwyrdd, gerddi glaw a waliau byw yn gallu helpu i reoli tymheredd mewnol adeilad, lleihau dŵr ffo yn sgîl glaw trwm a lleihau effaith ynysoedd gwres trefol? Ar ben hynny, mae plannu rhywogaethau o flodau gwyllt brodorol yn creu cynefinoedd rhyfeddol ar gyfer pryfed peillio. I’ch ysbrydoli, mae enghreifftiau o doeon gwyrdd i’w gweld yn y sir ar y cynwysyddion ym Mharc Gwledig Craig Gwladus ac mae wal fyw i’w gweld ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Oxeye daisies and buttercups bridgend_edited.jpg
Community growing polytunnel Glantawe Riverside Park wildlife gardening NPT

YN YR ARDD

Oes gennych chi ddiddordeb angerddol mewn annog bywyd gwyllt yn eich gardd? Cynigir rhai syniadau isod.

Peidio â defnyddio mawn

Yn ogystal â bod yn gynefinoedd bywyd gwyllt a storio dŵr i atal llifogydd, mae mawndiroedd y Deyrnas Unedig yn storio 3 biliwn o dunelli o garbon, sy’n fwy na holl goedwigoedd yr Almaen, Ffrainc a’r Deyrnas Unedig gyda’i gilydd. Mae mawn o’r mawndiroedd hyn yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd mewn compost gardd. Yn ystod y 70 mlynedd diwethaf mae ardaloedd helaeth o’r cynefin tir uchel ar fawnogydd dwfn yn CNPT wedi cael eu haredig, eu draenio a’u defnyddio ar gyfer plannu conifferau. Mae’r prosiect Mawndiroedd Coll yn gweithio i adfer y mawndiroedd hyn, ond gallwch chi helpu hefyd trwy ddefnyddio compost heb fawn yn yr ardd.

Dewis planhigion lleol

Wyddech chi y bydd ein rhywogaethau o blanhigion brodorol wedi addasu i’r amodau lleol yn CNPT dros gyfnod hir o amser? Mae hyn yn golygu y bydd ganddyn nhw, a’r rhywogaethau o bryfed peillio sy’n dibynnu arnynt yn CNPT, amrywiadau genynnol. Wrth blannu planhigion/hadau newydd yn yr ardd, mae’n werth chwilio am stoc leol fel na fydd yr amrywiaeth genetig arbennig hwn yn cael ei wanhau a’i niweidio. Holwch eich cyflenwr planhigion i gael gwybod o ble mae eich planhigion wedi dod a chwiliwch am stoc leol.

Dyw natur ddim yn daclus

Dyw natur ddim wedi cael ei gwneud i fod yn daclus! Gallwch helpu’r bywyd gwyllt yn eich gardd trwy adael i rannau ddatblygu’n fwy naturiol, gadael i bethau dyfu’n uwch a rhoi ychydig o le i blanhigion fel danadl. Mae nifer o bryfed peillio, fel gwenyn a gloÿnnod byw yn treulio’r gaeaf mewn hen blanhigion marw. Gallwch eu helpu i oroesi’r gaeaf trwy adael i blanhigion marw sefyll a’u clirio yn y gwanwyn, dim ond pan fydd y tymheredd yn gyson yn cyrraedd 10°C.

Lawnt Blodau Gwyllt

Mae’n ymddangos yn anghyson, ond mae rhywogaethau o blanhigion brodorol yn ffynnu mewn amgylcheddau isel eu maetholion. Mae hyn oherwydd bod pridd sydd â lefel uwch o faetholion yn caniatáu i rywogaethau mwy cystadleuol fel glaswelltau a mieri ffynnu. Gallwch annog blodau gwyllt i dyfu yn eich lawnt trwy roi’r peiriant torri heibio yn ystod y tymor blodeuo a chasglu’r torion ar ôl torri er mwyn lleihau’r maetholion yn y pridd. Cewch fwy o wybodaeth am hyn yma.

bottom of page