top of page
meadow and steelworks NPT Local Nature Partnership

Glaswelltir Lled-naturiol

Glaswelltiroedd mesotroffig, gwastraff glo wedi’i adfer, glaswelltir amwynder a gwastadeddau

Sefyllfa Byd
Natur Glaswelltir Lled-naturiol
yn CNPT

Mae glaswelltir mesotroffig wedi’i led-wella yn cynnal bron un o bob pum rhywogaeth â blaenoriaeth yn CNPT ac mae’n un o adnoddau bioamrywiaeth pwysicaf y sir. Yn anffodus, mae’r cynefin hwn hefyd wedi gweld y gostyngiadau mwyaf yn ei gwmpas, ei gyflwr a’i gysylltedd. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos gweirgloddiau cyfoethog eu rhywogaethau sy’n brin, yn ddigyswllt ac yn aml wedi’u rheoli’n wael neu wedi’u hesgeuluso. Mae diffyg cysylltedd yn y cynefinoedd hyn wedi cael effaith negyddol sylweddol ar ddosbarthiad rhywogaethau â blaenoriaeth megis y Gwalch-wyfyn Gwenynaidd Ymyl Gul a nifer o blanhigion sy’n rhywogaethau â blaenoriaeth, megis Ysgallen y Ddôl, y Ffacbysen Chwerw, y Grachleithinen a Melynog y Waun.

Oherwydd hyn, aseswyd bod cadernid a sefyllfa byd natur y glaswelltiroedd wedi’u lled-wella yn CNPT yn wael.

TROSOLWG

Mae glaswelltiroedd wedi’u lled-wella yn CNPT yn gynefin i un o bob pump o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn y sir. Mae’r rhan fwyaf o’r cynefinoedd hyn yn laswelltiroedd niwtral, mesotroffig , megis gweirgloddiau, lleiniau ymyl ffordd/cylchfannau, dolydd llifwaddodol, gwastadeddau a glaswelltir wedi’i adfer ar domenni rwbel glo. Drwy ychwanegu glaswelltir corsiog (sydd wedi’i gynnwys yn y categori Rhostir a Gweundir), mae cyfran y rhywogaethau â blaenoriaeth yn fwy na’r chwarter, sy’n arwyddocaol iawn. Mae gweirgloddiau a reolir yn y dull traddodiadol yn brin yn CNPT, ond mae dolydd bioamrywiol SoDdGA Hafod Wennol (a’r ardaloedd cyfagos) i’r gogledd o Bontardawe, yn enghreifftiau da gyda rhywogaethau dangosol allweddol neu rywogaethau â blaenoriaeth megis yr Effros Mawr, y Tegeirian Llydanwyrdd a’r Llysyrlys.

Cynyddir y rhestr o laswelltir niwtral bioamrywiol yn CNPT i ryw raddau gan rwydwaith helaeth o leiniau ymyl ffordd a chylchfannau, y mae rhai ohonynt yn cynnal cymunedau glaswelltir mesotroffig lliwgar ac amrywiol. Mae enghreifftiau da i’w canfod ar hyd Ffordd Fabian (A465) ger Jersey Marine, ar hyd y Rhodfa Ganolog ger Parc Ynni Baglan, ar Gylchfan Saltings ger Castell-nedd ac yn Ffordd yr Harbwr ym Mhort Talbot (ger y gwaith dur) lle mae cytrefi o’r Glesyn Bach i’w canfod.

Mae llawer o laswelltiroedd wedi’u hadfer ar domenni glo yn y sir. Gwelir enghreifftiau da yn Nhomen y Bryn, y glaswelltiroedd a adferwyd ar safle glo brig Selar ger Blaengwrach a’r glaswelltiroedd a adferwyd yn rhan uchaf Cwm Dulais. Mae gan rai o’r safleoedd hyn gynefinoedd mosaig cymhleth ac amrywiaeth cyfoethog o rywogaethau glaswelltir, sy’n aml yn cynnwys rhywogaethau dangosol allweddol, megis Tegeirian y Wenynen, y Tegeirian Brych, Ysgallen Siarl, Cneuen y Ddaear a’r Peradyl Garw.

Mae cyflwr glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau yn CNPT yn destun pryder mawr. Mae newidiadau o ran defnydd tir, datblygu, gwelliannau amaethyddol ac esgeulustod i gyd wedi cyfrannu at ddiflaniad y cynefinoedd hyn yn y sir yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. I wrthdroi’r duedd hon, bydd gofyn newid agweddau yn sylweddol, cydnabod eu gwerth a newid arferion rheoli. Gall stiwardiaeth sensitif, creu cynefinoedd, rheoli ymylon ffyrdd ac adfer safleoedd i gyd fod yn rhan o’r ymdrechion hyn.

Semi natural grassland habitats in NPT Local Nature Partnership
meadow and steelworks NPT LNP Nature

Camau gweithredu ar gyfer adfer Cynefinoedd Glaswelltir Lled-naturiol yn CNPT

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.

Greater Burnet NPT Local Nature Partnership
Roesel's Bush Cricket Crymlyn Parc NPT LNP
Greater Butterfly Orchid Charles Hipkin NPT LNP Meadow

© Charles Hipkin

Y LLYSYRLYS

Rhywogaeth o laswelltir mesotroffig yw’r Llysyrlys, sy’n tyfu yn benodol ar orlifdiroedd, ond sydd hefyd i’w chanfod ar ymylon ffyrdd a glaswelltir twyni. Mae’n blanhigyn eithaf tal sy’n amlwg iawn pan fydd yn ei flodau, gyda phennau blodau sydd bron yn ddu, a gaiff eu peillio gan y gwynt. Mae iddo ddosbarthiad helaeth yng Nghwm Nedd a rhan uchaf Cwm Tawe lle mae’n ddangosydd pwysig o laswelltir mesotroffig wedi’i led-wella. Mae ei ddosbarthiad gwasgaredig yn rhan uchaf Cwm Nedd rhwng Resolfen a Glyn-nedd yn awgrymu bod y tir ar lawr y dyffrynnoedd hyn yn arfer bod yn laswelltiroedd llifwaddodol yn bennaf cyn iddo gael ei ddraenio a’i wella i greu tir pori.

CRICSYN HIRGORN ROESEL

Mae’r cricsyn deniadol hwn yn aelod cymharol newydd o ffawna CNPT. Adroddwyd amdano yn 2019 gan aelod o’r cyhoedd o ardal Sgiwen. Mae’r cricsyn cymedrol ei faint yn frown neu’n felyn gydag arlliw o wyrdd a thri smotyn golau ar y thoracs ac ymyl lliw hufen o gwmpas ochrau’r pronotwm. Gellir adnabod y cricsyn benyw wrth ei gwyddodydd mawr (sy’n edrych fel colyn ond sy’n hollol ddiniwed). Mae cân (grillian) y gwryw yn hynod iawn gyda sain barhaus a main iawn. Mae amrediad y rhywogaeth bellach yn ehangu o dde-ddwyrain Lloegr tua’r gogledd a’r gorllewin, o bosib oherwydd y newid yn yr hinsawdd, gan ei bod yn ffynnu yn ystod hafau poeth.

Y TEGERIAN LLYDANWYRDD

Mae’r tegeirian mawr, trawiadol hwn yn un o ddangosyddion allweddol glaswelltir mesotroffig, niwtral a reolir yn y dull traddodiadol yn ne Cymru. Gwyddom ei fod yn tyfu ar ddau safle glaswelltir yn unig yn CNPT sydd ill dau yn sector gogledd y sir. Mae nifer y tegeirianau unigol sy’n ymddangos yn amrywio’n fawr o flwyddyn i flwyddyn, sy’n eithaf nodweddiadol o degeirianau gweirglodd. Mae’r blodau’n rhyddhau arogl cryf, yn enwedig yn y nos pan fyddant yn denu sylw gwyfynod mawr, megis gwalchwyfynod, sy’n bwydo ar y neithdar a geir yn sbardunau dwfn y blodyn. Mae goroesiad y rhywogaeth â blaenoriaeth hon yn CNPT yn gwbl ddibynnol ar sicrhau bod y glaswelltiroedd lle y mae i’w chanfod yn parhau i gael eu rheoli fel gweirgloddiau.

Prosiectau mewn glaswelltir lled-naturiol yn CNPT

ASTUDIAETH ACHOS

Caru Gwenyn CNPT

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae colli cynefinoedd glaswelltir blodau gwyllt a’r pryfed peillio a gynhelir ganddynt wedi bod yn achosi pryder i’r cyhoedd. Mae gan Gyngor CNPT gyfrifoldeb i roi sylw i’r argyfyngau natur a hinsawdd hyn ac mae hefyd wedi ymrwymo i warchod, diogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol yn unol â’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth, Cynllun Gweithredu Adfer Natur CNPT a Chynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio.

Cafodd dull gweithredu newydd o reoli ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd CNPT ei gymeradwyo gan Fwrdd Cabinet Adfywio a Datblygu Cynaliadwy y Cyngor Sir ar 30 Gorffennaf 2021, ac mae Cyngor CNPT yn ei roi ar waith yn raddol fel y mae’r adnoddau’n caniatáu. Nod y cynllun hwn yw cynyddu arwynebedd a chwmpas glaswelltir blodau gwyllt (h.y. ymylon ffyrdd a dolydd mwy o faint a reolir mewn modd sy’n annog blodau gwyllt a phryfed peillio) ym Mwrdeistref Sirol CNPT, er mwyn cefnogi Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor a Chynllun Gweithredu Adfer Natur CNPT.

Yn draddodiadol, mae’r ymylon ffyrdd yn CNPT a reolir gan yr awdurdod lleol yn cael eu torri bob 2-3 wythnos yn ystod y tymor tyfu, h.y. rhwng diwedd Mawrth a diwedd Medi, ac mae’r torion yn cael eu taenu a’u gollwng ar ben y glaswellt.

Mae hyn yn rhoi gwrtaith i’r pridd ac yn annog rhagor o laswellt i dyfu. O 2021 ymlaen, bydd Cyngor CNPT yn newid y dull rheoli hwn mewn lleoliadau penodol gyda’r Is-adran Gwasanaethau Gofal Stryd ac yn mynd ati, yn lle hynny, i  annog blodau gwyllt i dyfu ac yn lleihau amlder y gwaith torri sy’n angenrheidiol trwy ddefnyddio peiriannau ‘torri a chasglu’.

Mae ymylon ffyrdd megis Ffordd yr Harbwr, Ffordd Fabian Way a Chylchfan Saltings yn rhan o’r cynllun hwn, ynghyd â nifer o ardaloedd newydd o gwmpas y sir.

Bee Friendly Sign Aberavon_edited.jpg
nptbf map.png
bottom of page