top of page
14-3-25 FoCGers with pond.JPG

Cynllun Grant Bioamrywiaeth PNL CNPT 2025/26

Oes gennych chi, eich grŵp neu eich sefydliad syniad ar gyfer prosiect a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar natur a'r gymuned leol yn eich ardal?

Mae gennym gyllid grant ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu at adferiad natur tymor hir yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Ariennir y prosiect gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Darllenwch isod i ddarganfod mwy. Darllenwch isod i ddarganfod mwy.

Meini prawf allweddol y grant:

  • Mae'r cynllun grant yn ariannu costau cyfalaf yn unig - ni ellir cynnwys unrhyw gostau refeniw fel amser staff/gwirfoddolwyr a llogi lleoliadau.

  • Gellir gwneud ceisiadau am hyd at £10,000.

  • Rhaid i leoliad y prosiect fod yn hygyrch i aelodau'r cyhoedd er mwyn derbyn cyllid grant. Gall fod yn hygyrch am ran o'r flwyddyn, neu drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys bod ar agor ar gyfer digwyddiadau yn unig.

  • Dylai ymgeiswyr nodi sut y bydd eu prosiect yn sicrhau buddion parhaol i fioamrywiaeth a sut mae'n gwella mynediad pobl leol at natur, yn enwedig os bydd angen gwaith rheoli parhaus ar ôl gwario'r cyllid grant.

  • Rhaid i'r rhai sy'n derbyn yr arian grant gytuno i gynnal a chadw amcanion y prosiect am o leiaf 5 mlynedd, fel rhan o feini prawf derbyn y cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch y meini prawf llawn yn y ffurflen gais.

photo 4.jpg
Gnoll Wetland area raking up arisings.jpg

Mae'r eitemau nad ydynt yn gymwys i dderbyn cyllid yn cynnwys y canlynol:

  • Plannu anfrodorol

  • Arwyddion

  • Tirlunio gan gynnwys graean

  • Slabiau patio

  • Ffensys

  • Meinciau a seddi

  • Costau refeniw gan gynnwys amser staff/gwirfoddoli a llogi lleoliadau

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch isod i lawrlwytho'r ffurflen gais:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i gyflwyno ffurflen gais, e-bostiwch biodiversity@npt.gov.uk

bottom of page