top of page
Bluebells Scwd Gwladys (c) Charles Hipkin Woodland NPT LNP

Coetir

Coetir derw, coetiroedd gwernen/helygen gwlyb, coetiroedd coridor glannau afonydd, planigfeydd, prysgwydd, gwrychoedd

Sefyllfa Byd Natur yng
Nghoetiroedd CNPT

Mae coetiroedd a gwrychoedd yn gynefinoedd i bron 40% o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT. Mae eu gwerth o ran bioamrywiaeth yn aruthrol. Yn ffodus, ychydig iawn o newidiadau pwysig a welwyd o ran amrywiaeth, cwmpas a chysylltedd y cynefin hwn yn y sir yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf ac mae arwynebedd mawr y coetir a gynrychiolir yn arbennig o arwyddocaol. Fodd bynnag, mae pryderon pwysig ynghylch rhywogaethau anfrodorol ymledol (INNS), megis Rhododendron, mewn rhai cynefinoedd coetir yn golygu nad yw asesiad rhagorol yn bosibl. O ganlyniad, aseswyd bod cadernid a sefyllfa byd natur yng nghoetiroedd CNPT yn dda.

TROSOLWG

Coetir yw 40% o arwynebedd tir CNPT sy’n golygu ei bod yn un o’r siroedd mwyaf coediog yng Nghymru. Planigfeydd conifferau yw’r rhan fwyaf o hyn, ond mae cryn dipyn o goetir collddail hynafol yn goroesi, yn enwedig ym Mro Nedd. Mae’n arwyddocaol bod mwy na thraean o’r Rhywogaethau â Blaenoriaeth yn CNPT i’w canfod yng nghoetiroedd y sir.

Mae’r amrywiaeth o blanhigion blodeuol yn y coedwigoedd conifferau yn wael ond gwelir bod rhai llanerchau coed Sbriws Sitka aeddfed yn cynnal casgliadau toreithiog o rywogaethau o bryoffytau a fflora daear a gysylltir yn arferol â choetiroedd derw ar dir uchel. Ar ben hynny, mae sawl rhywogaeth o adar wedi elwa’n fawr o’r planigfeydd conifferau yn CNPT. Mae ardaloedd llwyrgwympo cyn bod prysglwyni’n datblygu yn gynefin bridio ar gyfer Corhedydd y Coed a’r Troellwr Mawr tra bod coedwigoedd conifferau llawn dwf yn cynnal poblogaethau bridio o'r Gylfingroes Cyffredin, y Llinos Bengoch Fechan, y Pila Gwyrdd, Gwalch Marthin a Boda’r Mêl.

Mae’r coridorau coediog ar hyd systemau’r prif afonydd, ar y llaw arall, yn aml yn cynnal fflora amrywiol, gyda Llwyfenni Llydanddail, Pisgwydd Dail Bach, coed Ynn, Gwern, Masarn a Chyll a fflora daear lliwgar y gwanwyn lle ceir llu o rywogaethau dangosol coetiroedd hynafol megis Clychau’r Gog, Briallu, Blodau’r Gwynt, Marddanadl Melyn, Clustiau’r Arth, Deintlys, Cnau’r Ddaear a Chraf y Geifr. Mae Coed Cwm Du ger Pontardawe a llawer o’r coridor ar lannau’r afon rhwng Aberdulais a Glyn-nedd yn enghreifftiau da. Ym Mro Nedd, gwelir bod Tormaen y Gweunydd yn dal i dyfu ar hyd ymylon cysgodol y coed hyn ar lannau’r afon fel y gwnâi ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Coetiroedd Derw Mes Di-goes gyda choed Celyn a Chriafol sydd amlycaf ar lethrau mwy serth Cymoedd Nedd, Afan a rhan uchaf Cwm Tawe. Mae enghreifftiau da i’w gweld yng Nghwm Nedd uwchben Baglan, Tonna, Llangatwg a Chilffriw. Er bod y coetiroedd hyn yn cynnal llai o amrywiaeth o fflora daear o gymharu â’r rhai ger yr afonydd, maen nhw’n darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer mamaliaid coetir (e.e. y Mochyn Daear), adar coetir (e.e. Telor y Coed) ac infertebratau coetir. Mae’n werth nodi’r ffaith ryfeddol fod poblogaeth o Chwilod Daear Glas wedi’i darganfod yng Nghoed Maesmelin ac, yn fwy diweddar, mewn rhai coetiroedd Derw Mes Di-goes cyfagos eraill. Ceir casgliadau o bryoffytau’r Iwerydd sy’n bwysig ar lefel genedlaethol yng nghoetiroedd, ardaloedd rhaeadrau a cheunentydd dyffrynnoedd Pyrddin a Nedd Fechan, y mae rhannau ohonynt yn ardal CNPT. Mae coetiroedd derw yn nyffrynnoedd ucheldir yr un ardal hefyd yn cynnig cynefinoedd i’r ychydig o Wybedogion Brith sy’n dal i fridio yn y sir. Mae ceunant serth a choediog Dyffryn Melincwrt yn cynnal Coetir hynafol o goed Derw Mes Di-goes a fflora doreithiog o blanhigion is, gan gynnwys poblogaeth fach o Redynach Teneuwe Tunbridge.

Ceir gwrychoedd hynafol, cyfoethog eu rhywogaethau ledled CNPT, yn nodweddiadol ar gloddiau uwch hen lonydd plwyf. Gwelir enghreifftiau da ar hyd Heol y Bwlch rhwng Cimla a Chwmafan, ar hyd Rhiw Fairyland rhwng Llanilltud Fach a Chronfa Ddŵr Mosshouse ac mewn sawl man yn sector gogledd y sir, e.e. Cilybebyll, Godre’r Graig, Rhyd y Fro ac ar hyd Heol y Gwrhyd. Mae’r rhain yn ffurfio rhwydwaith pwysig sy’n cysylltu cynefinoedd coediog yn y sir.

Woodland Habitats in NPT (c) NPT LNP / NPTC
Bluebells Scwd Gwladys Charles Hipkin NPT LNO

Camau gweithredu ar gyfer adfer cynefinoedd coetir yn CNPT

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.

european-pied-flycatcher-gd11a33f9b_1920 from pixabay, royalty free
Charles Hipkin fungi woodland habitats
NPT Blue Ground Beetle Vaughn Matthews Wales

GWYBEDOG BRITH

Mae’r Gwybedog Brith yn un o adar eiconig y Coetiroedd Derw Mes Di-goes yng ngorllewin Prydain. Bu ar un adeg yn bridio’n fynych yn CNPT yn ystod yr haf ond mae ei niferoedd wedi prinhau’n enbyd dros y degawdau diwethaf ac mae ein cofnodion yn dangos mai ychydig iawn o Wybedogion Brith sy’n bridio yn y sir ar hyn o bryd. Ni wyddom yr union reswm dros y dirywiad diweddar gan fod cynefinoedd coetir addas yn y sir. Efallai bod amrediad y rhywogaeth yn cilio tua’r gogledd mewn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.

FFYNGAU COETIR

Mae coetiroedd yn gynefinoedd pwysig ar gyfer ffyngau ac mae coedwigoedd conifferau lleol yn cynnal amrywiaeth mawr o’r organebau hynod ddiddorol hyn. Canfuwyd mwy na 130 o rywogaethau o facroffyngau mewn coedwigoedd Sbriws Sitka yn CNPT ac mae coedwigoedd Ffawydd, fel y rhai yng Nghoed Llansawel a Choedwig Glyncastell, yn aml yn cynnwys cymunedau amlrywogaeth.

CHWILEN DDAEAR LAS

Mae’r Chwilen Ddaear Las wedi prinhau’n enbyd ym Mhrydain yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, ond mae’n ymddangos bod ganddi gadarnle yn Ne Cymru. Roedd darganfod y chwilen drawiadol hon yn ddiweddar yng Nghoed Maesmelin ac mewn rhai coetiroedd derw eraill yng Nghwm Nedd yn llwyddiant nodedig ar gyfer bioamrywiaeth yn CNPT. Mae’n bur debygol y bydd rhagor o boblogaethau o’r chwilen hon yn cael eu darganfod yn y sir.

Prosiectau mewn Coetiroedd yn CNPT

ASTUDIAETH ACHOS

Bioamrywiaeth ar Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru (YCLlC)

Datblygodd prosiect Bioamrywiaeth ar Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru (YCLlC) yn sgîl gweminar gan Dr Charles Hipkin, a amlygodd fod tirwedd planigfeydd wedi’i hesgeuluso i raddau helaeth gan gofnodwyr rhywogaethau. Ar hyn o bryd, rheolir bioamrywiaeth y planigfeydd hyn, sy’n cynnwys ardaloedd helaeth o gynefinoedd agored, cyfoethog eu rhywogaethau, nad ydynt yn goedwigoedd, yn unol â’r dystiolaeth orau sydd ar gael. Fodd bynnag, cyfyngir ar y gwaith hwn i raddau helaeth gan arolygon cynefinoedd a rhywogaethau gan gofnodwyr arbennig, y mae’n ddibynnol arnynt, ac y mae angen cynnal mwy ohonynt.

Nod y prosiect hwn oedd llunio cysylltiadau rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r llu o arbenigwyr lleol yn CNPT a Rhondda Cynon Taf ac, er bod y berthynas rhwng adrannau rheoli tir CNC a’r prosiect yn dal i ddatblygu, mae’r cyswllt a gafwyd yn ystod y prosiect wedi helpu i adeiladu sylfaen gref a chydweithredol o ran arfer gorau yng Nghymru a rheoli prosiect YCLlC mewn modd cynaliadwy. Cyrhaeddodd y prosiect gynulleidfa eang yn sgîl gweminar ar Ddosbarthiad a Dynameg Bioamrywiaeth ar YCLlC, y bu mwy na 200 o bobl o nifer o sectorau a siroedd yn ymuno ag ef.

Amlygodd y prosiect feysydd cynefin allweddol ar YCLlC, gan gynnwys prysgwydd helyg sy’n cynnal cymunedau pwysig o gen a bryoffytau epiffytig hypergefnforol, gweddillion coetiroedd llydanddail, ymylon ffyrdd bioamrywiol a mawn dwfn. Amlygwyd hefyd bwysigrwydd YCLlC o ran cynnal  rhywogaethau dangosol allweddol a rhywogaethau â blaenoriaeth, megis y Clychlys Dail Eiddew, y Cnwp-fwsogl Alpinaidd, y Cnwp-fwsogl Corn Carw a’r Cnwp-fwsogl Mawr.

Mae’r sylwadau wrth gloi’r gweminar (sydd i’w gweld isod) yn crynhoi rhai o ganlyniadau’r prosiect:

'Er mai prosiect byr, ar raddfa beilot oedd hwn, mae wedi cyflawni llawer o ganlyniadau pwysig gan gynnwys asesiad o’r hyn a wyddom am fioamrywiaeth YCLlC, a ble mae’r bylchau yn ein gwybodaeth hefyd. O ystyried cwmpas y coetir conifferau mewn siroedd fel CNPT a Rhondda Cynon Taf, mae’n amlwg bod cynnal yr asesiadau hyn a llenwi’r bylchau yn bwysig dros ben. Mae’r prosiect wedi tynnu sylw llawer o bobl at rôl YCLlC fel lloches ar gyfer rhywogaethau sy’n prinhau ym miodirwedd De Cymru a/neu sydd wedi cyrraedd ymylon eu hamarediad bioddaearyddol. Bydd angen rhagor o fanylion wrth i ni gamu ymlaen’.

Dr Charles Hipkin, Cadeirydd Partneriaeth Natur Leol CNPT

Swansea Bay from Cregan NPT LNP
bottom of page