Gwlyptir
Ffeniau, corsydd, ffynhonnau a thryddiferiad
Sefyllfa Byd
Natur y Cynefinoedd Gwlyptir
yn CNPT
Mae cynefinoedd ffen ar dir isel yn CNPT yn cynnal cymunedau o blanhigion ac anifeiliaid amrywiol ac mae cysylltiad cyffredinol dda rhyngddynt a systemau gwlyptir eraill ar dir isel. Fodd bynnag, maen nhw mewn cyflwr gwael mewn mannau ac mae tystiolaeth o ewtroffigedd a llygredd yn ogystal â phroblemau o ran ymlediad prysgwydd olyniaethol a rhywogaethau anfrodorol ymledol, e.e Rhododendron yn Ffen Pant y Sais, a Helygen y Môr yn y cynefinoedd cors a ffen ger Iardiau Trefnu Cynffig. Mae rhai systemau gwlyptir ar yr ucheldir megis Gors Llwyn mewn cyflwr rhesymol ond mae colli cynefinoedd gwlyptir eraill ar yr ucheldir trwy esgeulustod, coedwigo, datblygu a gwelliannau amaethyddol wedi peryglu eu cysylltedd. Yn gyffredinol, mae’r cynefinoedd gwlyptir yn CNPT yn fach, yn ddarniog a heb eu cysylltu’n dda.
​
Oherwydd hyn i gyd, gwelir bod cadernid y gwlyptiroedd yn CNPT yn eu crynswth yn sylweddol is na da ac, o ganlyniad, aseswyd bod sefyllfa byd natur y cynefinoedd hyn yn wael.
TROSOLWG
Mae ardal CNPT yn ffodus bod yno nifer o safleoedd gwlyptir pwysig sydd, gyda’i gilydd, yn cynnal un o bob pump o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn y sir. Mae cynefinoedd penodol yn y categori hwn yn cynnwys ffen, gwern a gorgorsydd ombrotroffig (corsydd).
​
Mae nifer da o gynefinoedd ffen sy’n cynnwys llawer o gyrs a graminoidau tal eraill i’w canfod yn CNPT ac mae Cors Crymlyn (i’r dwyrain o Gamlas Glan y Wern) a Ffen Pant y Sais yn enghreifftiau amlwg o’r rhain. Mae Plu’r Gweunydd Eiddil, sef rhywogaeth sy’n brin ar lefel genedlaethol ac a restrir yn y Llyfr Data Coch, i’w canfod ar y ddau safle ynghyd â rhestr hir o blanhigion hynod eraill megis y Llafnlys Mawr, y Cleddlys Bach, Cynffon-y-gath Gilddail, Rhawn y Gaseg, Pumnalen y Gors, Melog y Waun, y Rhedynen Gyfrdwy, y Gorsfrwyn Llym a’r Trewyn. Gwelir darnau llai o gynefin tebyg i ffen mewn sawl man rhwng Jersey Marine ac Aberdulais sy’n cael eu cysylltu gan Gamlas Tenant ac mae darnau mawr o gorstir cyrs yn bennaf hefyd ar y gors bori rhwng Castell-nedd a Thonna ac yn agos ati ac ar Weunydd Margam. Mae darn o ffendir arfordirol diddorol yng nghyffiniau Iardiau Trefnu Cynffig, ger y Morfa. Mae’r Hesgen Gynffonnog, Clwbfrwynen y Coed, Corsfrwyn Llym a’r Gegiden Bibellaidd i’w canfod yma, yr olaf o’r rhain yn un o’i safleoedd prin yn Ne Cymru. Mae’r holl gynefinoedd hyn yn bwysig ar gyfer adar y corstir megis Telor Cetti, y Troellwr Bach, Boda’r Gwerni, Bras y Cyrs, Telor y Cyrs, Telor yr Hesg a’r Rhegen Ddŵr yn ogystal ag ymlusgiaid megis Neidr y Gwair a’r Madfall Gyffredin. Mae nifer dda o bryfed hefyd, yn enwedig mursennod (e.e. y Fursen Las Amrywiol) a gweision y neidr (e.e. Gwas Neidr Flewog). Mae’r boblogaeth o Gorynnod Rafft y Ffen ar Gamlas Tenant rhwng Cors Crymlyn, Pant y Sais a’r Siaced Goch yn amlwg yn elwa o’r cysylltiadau rhwng y cynefinoedd ffen a dyfrol yma.
​
Mae ardaloedd helaeth o gyforgors ombrotroffig yn anghyffredin yn CNPT ond mae gan rannau o Gors Llwyn ger Onllwyn strwythur cyforgors. Mae’r Hesgen Duswog a’r Hesgen Rafunog Fawr yn amlwg ar y safle hwn, sydd hefyd yn cynnwys Melog y Waun, Eurinllys y Gors a phoblogaeth fewndirol ddiddorol o Galdrist y Gors. Mae’r ardaloedd o ffen corsiog â llystyfiant tal yma ac mewn cynefinoedd cyfagos ecolegol gysylltiedig yn cynnwys poblogaethau enfawr o Ffa’r Gors ynghyd â’r Hesgen Gylfinfain, Marchrawnen y Dŵr a’r Trewyn. Ddegawdau yn ôl, yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, roedd y Gronnell i’w chanfod ar Gors Llwyn ond ni welwyd mohoni yn ddiweddar. Mae’r gyforgors ar dir isel yn Fforest Goch ger y Rhos hefyd yn nodedig am yr amrywiaeth o gymunedau gwlyptir a geir yno, sy’n cynnwys poblogaeth o Hiclys y Gors, sef math o lys yr afu sy’n brin yn Ne Cymru. Mae ardaloedd llai o laciau tir corsiog a lifolchir i’w canfod yn helaeth yn nhirweddau gweundir rhan uchaf Cwm Dulais ac yn ardal y Gwrhyd rhwng Cwmllynfell a Rhyd-y-Fro lle mae’r Hesgen Rafunog Fawr, yr Ysbigfrwynen Gadeiriog, Eurinllys y Gors a’r Hesgen Benwen i’w canfod.
​
Yn ystod y 70 mlynedd diwethaf, mae ardaloedd helaeth o gynefinoedd ucheldir ar fawn dwfn yn CNPT wedi cael eu haredig, eu draenio a’u plannu â chonifferau. Mae hyn wedi cyfrannu at golli cynefin gwlyptir sylweddol yn y sir, sydd bellach ond yn cwmpasu 1% o arwynebedd tir y sir. Fodd bynnag, mae rhai darnau o gynefin gwlyptir wedi goroesi mewn planigfeydd ac mae prosiectau sy’n ceisio adfer mawndiroedd coll eraill ar waith.
Camau gweithredu ar gyfer adfer y Cynefinoedd Gwlyptir yn CNPT
Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.
LYGODEN BENGRON Y DŵR
Roedd Llygod Pengrwn y Dŵr yn nodwedd eithaf cyffredin o gynefinoedd gwlyptir a dyfrol yn CNPT 60 mlynedd yn ôl, ond maen nhw wedi prinhau’n drychinebus yn ystod y degawdau diwethaf. Mae’n fwy na thebyg bod colli cynefinoedd ac ysglyfaethu gan Fincod Americanaidd yn rhan bwysig o’r dirywiad hwn. Fodd bynnag, darganfuwyd poblogaeth arwyddocaol o Lygod Pengrwn y Dŵr yn ddiweddar mewn ardaloedd gwlyptir oddi mewn i blanigfeydd conifferau ar dir uchel yn y sir. Mae prosiectau adfer cynefinoedd mawnog bellach yn ymgorffori gwaith rheoli er lles llygod pengrwn y dŵr ac yn monitro’r poblogaethau yma.
MIGWYN
Genws o’r adran bryoffyt yw migwyn sy’n cynnwys nifer o rywogaethau sy’n nodweddiadol o ardaloedd gwlyb gan gynnwys mawndiroedd a llaciau. Mae ffurf dyfu nodweddiadol y planhigion pwysig hyn yn cynnwys canghennau mewn grwpiau o’r enw ffasgellau ar hyd y coesyn, a man canol sy’n tyfu’n weithredol a elwir yn gapitwlwm, ar y brig. Gall migwyn amsugno a dal sawl gwaith ei bwysau sych o ddŵr ac mae’n beiriannydd ecosystemau ar gyfer cynefinoedd mawndir.
CORRYN RAFFT Y FFEN
Dyma gorryn mwyaf y Deyrnas Unedig ac un o’r rhai prinnaf. Gall corff y corryn trawiadol hwn dyfu i 23mm ac mae ganddo linell olau ar hyd un ochr ei gorff. Mae’r ysglyfaethwyr ffyrnig hyn, sy’n gallu dal a bwyta crethyll, i’w canfod mewn ychydig iawn o safleoedd yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Camlas Tenant ger Jersey Marine. Fe’u gwelir fel arfer yn yr haf yn torheulo ar lystyfiant sy’n arnofio neu’n dod allan o’r dŵr. Mewn rhai blynyddoedd, maent i’w canfod mewn niferoedd cymharol fawr.
Prosiectau mewn Cynefinoedd Gwlyptir yn CNPT
ASTUDIAETH ACHOS
Prosiect y Mawndiroedd Coll
Cyflwynir prosiect ‘Mawndiroedd Coll De Cymru’ gan Bartneriaeth y Mawndiroedd Coll sy’n cynnwys Cyngor CNPT (Arweinydd), Cyngor RhCT, CNC, Prifysgol Abertawe a Coed Lleol. Mae’r prosiect yn darparu rhaglen gyffrous o welliannau amgylcheddol a gweithgareddau cymunedol rhwng 2021 a 2025.
​
Yn hanesyddol, roedd tirwedd yr ardal ucheldir rhwng CNPT a RhCT yng Nghymoedd De Cymru, y cyfeirid ati ar un adeg fel ‘Alpau Morgannwg’, yn fawndir corsiog ar weundir agored. Heddiw, rhai o nodweddion amlycaf y dirwedd hon yw planigfeydd coedwigaeth masnachol a ffermydd gwynt ynni adnewyddadwy, ond mae lleiniau mawr o fawn ar ôl o hyd. Mae mawn yn werthfawr dros ben o ran storio dŵr, storio carbon ac fel cynefin i fywyd gwyllt. Mae cadwraeth mawndiroedd yn ffactor allweddol o ran lliniaru’r newid yn yr hinsawdd a gwrthdroi colledion bioamrywiaeth.
​
Prif nod Prosiect y Mawndiroedd Coll yw adfer a rheoli mwy na 490 hectar o’r dirwedd hanesyddol a’r cynefinoedd hyn, sy’n cynnwys rhostir, glaswelltir a choetir brodorol. Rhoddir sylw yn benodol i adfer 256 hectar o fawnogydd a phyllau a goedwigwyd yn y gorffennol. Bydd gwaith i wella cynefinoedd yn annog llawer o’r rhywogaethau o fywyd gwyllt lleol sy’n prinhau ar hyn o bryd i ffynnu unwaith eto. Mae’r rhain yn cynnwys adar fel yr Ehedydd a’r Troellwr Mawr; infertebratau fel gloÿnnod byw y Fritheg Werdd a’r Fritheg Berlog Fach; a mamaliaid, gan gynnwys Llygoden Bengron y Dŵr sydd mor anodd ei gweld.
Caiff y gwaith o adfer y mawn ei fonitro’n ofalus a bydd yn llywio gwaith ymchwil pwysig, parhaus gan Brifysgol Abertawe er mwyn arwain arfer gorau mewn technegau adfer a deall yr effaith ar fioamrywiaeth, ansawdd dŵr ac allyriadau CO2. Bydd y prosiect hefyd yn hwyluso mynediad i’r dirwedd wyllt hon trwy ddarparu gwell llwybrau troed a chyfeirbwyntiau, a gwell dehongli.
​
Yn rhan o’r prosiect, bydd modd hefyd i bobl leol brofi ac ymwneud â’r dreftadaeth ar garreg eu drws a dysgu amdani trwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau am ddim, rhaglenni dysgu yn yr awyr agored ar gyfer ysgolion a chyfleoedd i wirfoddoli. Bydd modd i bobl feithrin gwybodaeth a sgiliau awyr agored newydd trwy raglenni hyfforddi penodedig. Bydd teuluoedd ac oedolion hefyd yn gallu ymuno â rhaglenni gweithgareddau iechyd a llesiant y prosiect neu gael eu hatgyfeirio iddynt.