top of page
Marine LEP view of port talbot.jpg

Cynefinoedd Morol

Cynefinoedd morol islanw / ar y glannau

Sefyllfa Byd
Natur yn y Cynefinoedd Morol
yn CNPT

Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i lunio asesiad pendant o gadernid a sefyllfa byd natur yng nghynefinoedd morol CNPT. Gellir tybio bod priodweddau fel cwmpas a chysylltedd yn dda. Fodd bynnag, yn ôl asesiad interim Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2018 roedd statws cyffredinol a statws ecolegol ein dyfroedd arfordirol lleol yn gymedrol ac wedi methu cyrraedd y nod o ran eu statws cemegol. Ar sail hynny, daethpwyd i’r casgliad fod ein cynefinoedd morol mewn cyflwr gwael. Ar ben hynny, mae materion megis llygredd a rhywogaethau anfrodorol ymledol yn dal i fygwth cadernid ecosystemau. Ar yr adeg hon, ni allwn ond dod i’r casgliad bod sefyllfa byd natur yn y cynefinoedd morol yn CNPT mewn cyflwr gwael.

TROSOLWG

Yn y ddogfen hon, y diffiniad o gynefinoedd morol CNPT yw dyfroedd morol mewndirol, islanwol ac arwyneb Bae Abertawe am bellter o 12 milltir forol o arfordir CNPT. Yma, mae gwely’r môr yn cynnwys tywodfeini a cherrig llaid sydd â thywod, graean a llaid drostynt. Mae’r prif gynefinoedd sy’n rhan o hyn yn addas ar gyfer mamaliaid, pysgod ac infertebratau morol ond nid oes ardaloedd creigiog islanwol yma.

​

Prin yw’r wybodaeth fanwl, benodol am fioamrywiaeth y cynefinoedd hyn ond darganfu arolygon a gynhaliwyd yn 2013 6 grŵp o ffawna o dan yr wyneb a oedd yn cynnwys llyngyr gwrychog a chregyn deuglawr yn bennaf. Mae riffiau Sabellaria alveolata yn ffurfio yn y bae, rhai ohonynt ar strwythurau gwneud, megis grwynau. Cofnodwyd o leiaf 55 rhywogaeth o bysgod a 38 rhywogaeth o bysgod cregyn yn y bae. Ymhlith y rhain mae rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol megis Llysywod Ewropeaidd, Herlynod, Gwangod a Llysywod Pendoll y Môr. Yn ogystal, mae’r ardal yn feithrinfa bwysig ar gyfer lledod a chathod môr, a gwyddys bod Penwaig yn silio mewn sawl man o amgylch y bae. Mae’n bosibl bod Llymrïaid yn silio yma hefyd.

​

Mae Llamhidyddion i’w canfod yn y bae ar hyd y flwyddyn, gyda mamau a’u cywion i’w gweld rhwng diwedd yr haf a’r hydref bob blwyddyn, a nodwyd eu bod yn fforio’n agos at y lan mewn sawl man. Gwelir Dolffiniaid Cyffredin o dro i dro yn yr haf a ganol gaeaf, sydd efallai yn adlewyrchu’r helaethu sydd wedi digwydd yn amrediad poblogaeth dolffiniaid y Môr Celtaidd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac mae Morloi Llwyd wedi’u gweld o dro i dro. Cyfrifir niferoedd mawr ac arwyddocaol o Wyachod Mawr Copog yn y bae bob gaeaf rhwng Traeth Aberafan a Thwyni Crymlyn.

​

Mae’r ecosystem forol yn darparu cynefinoedd ar gyfer 24 o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT.

Sabellaria.jpg
Aberavon beach and swansea bay RR.png

Camau gweithredu ar gyfer adfer Cynefinoedd Morol yn CNPT

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.

Y LLAMHIDYDD

Mae Llamhidyddion yn bresennol ym Mae Abertawe ar hyd y flwyddyn gyda mamau a’u lloi i’w gweld rhwng diwedd yr haf a’r hydref bob blwyddyn.  Mae adroddiadau eu bod hefyd yn fforio’n agos at y lan ar hyd arfordir CNPT. Mae’r creaduriaid hyn yn llawer llai na’r dolffin brodorol ac yn fwy anodd eu gweld. Yn wahanol i ddolffiniaid, nid ydynt yn gadael y dŵr yn aml ond mae eu cefn yn ‘torri’r wyneb’ mewn bwa llyfn. Mae ganddynt big byr iawn sy’n gwneud iddynt edrych yn bengrwn o gymharu â’r dolffin.

PENWAIG

Mae Bae Abertawe yn cynnwys sawl safle silio ar gyfer Penwaig. Un o’r rhain yw ardal yr amddiffynfeydd môr ger y fynedfa i Ddoc Port Talbot. Mae’n debygol bod y strwythurau gwneud yn darparu ac yn atgynhyrchu’r is-haen sy’n ofynnol er mwyn caniatáu i ardaloedd o raean ymffurfio, gan greu’r amodau cywir ar gyfer safle silio. Mae’r penwaig yn silio ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn; mae’r boblogaeth ym Mae Abertawe yn silio ym mis Chwefror a mis Mawrth. Nid yw penwaig yn cael eu pysgota’n fasnachol yma. Mae eu niferoedd mawr a’u cylch atgenhedlu cyflym yn golygu eu bod yn ysglyfaeth bwysig yn yr ecosystem forol. Mae’n bosibl taw’r penwaig sydd i gyfrif am y niferoedd mawr o ysglyfaethwyr, yn enwedig y Gwyachod Mawr Copog, a welir yn ystod y gaeaf.

ASTUDIAETH ACHOS

Arolygon Gwyachod Mawr Copog sy’n Gaeafu

Yr Wyach Fawr Gopog yw’r math mwyaf ei faint a’r math mwyaf cyfarwydd o’r gwyachod a geir yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn eu cysylltu â llynnoedd dŵr croyw mawr lle mae adar sy’n bridio i’w gweld weithiau yn arddangos eu hunain mewn dawns baru osgeiddig ar y dŵr. Ychydig o barau bridio sydd yn CNPT ond maent i’w canfod yn rheolaidd ar Gronfa Ddŵr Eglwys Nunydd ger Margam ac yn y pyllau benthyg ger Glyn-nedd, lle gellir gwylio’r oedolion gyda’u cywion, gyda’r oedolion weithiau yn cario’r adar ifanc ar eu cefn.

​

Mae llawer mwy o’r adar hardd hyn yn ymgasglu mewn heidiau bwydo dros y gaeaf ym Mae Abertawe lle maen nhw’n ymgasglu yn aml mewn 3 grŵp gwahanol o adar ar draws y bae o Blackpill (Abertawe) i Aberafan (CNPT). Fel arfer, bydd dau o’r grwpiau hyn wedi’u lleoli yn CNPT, y naill ger Twyni Crymlyn a’r llall ger Traeth Aberafan. Mae nifer o selogion lleol wedi bod yn cyfri’r niferoedd o adar sy’n gaeafu yn yr heidiau hyn (Ymgyrch Cyfri Adar y Gwlyptir Ymddiriedolaeth Adareg Prydain) ar adegau rheolaidd am fwy na 10 mlynedd ac mae’n amlwg o’r cofnodion hyn fod y bae yn safle bwydo pwysig iawn yn y gaeaf gyda mwy na 700 o unigolion yn cael eu cyfrif mewn rhai misoedd. Yn aml, mae’r gyfran fwyaf o wyachod yn y bae i’w chanfod yn y dyfroedd ger CNPT a ger ardal Twyni Crymlyn, lle cafodd mwy na 400 o unigolion eu cofnodi, ac ymddengys hyn yn arwyddocaol iawn.

​

O dan Faen Prawf 6 o Gonfensiwn Ramsar, ystyrir bod heidiau o rywogaethau adar y dŵr sy’n gaeafu o bwysigrwydd rhyngwladol os ydynt yn cynnwys 1% neu ragor o’r boblogaeth genedlaethol. Y ffigur hwn sy’n pennu Lefel Trothwy’r Rhywogaeth, sef 190 ar hyn o bryd yn achos yr Wyach Fawr Gopog yn y Deyrnas Unedig. Bydd niferoedd uwch na’r lefel hon yn golygu bod safle o werth cadwraeth ryngwladol uchel. Mae’n amlwg bod nifer y Gwyachod Mawr Copog sy’n gaeafu ym Mae Abertawe yn rhagori’n sylweddol ar y trothwy hwn ac mae’n bwysig nodi bod hyn yn wir hefyd yn achos yr haid aeaf sy’n gysylltiedig â dyfroedd CNPT. Un o’r ffactorau cyfyngol allweddol yn hyn o beth yw cynnal heigiau digonol o’r pysgod y mae’r adar hyn yn dibynnu arnynt am eu bwyd ac mae hyn, yn ei dro, yn ddibynnol ar iechyd da a dynameg y maetholion yn ecosystem forol y bae.

great-crested-grebe-4196245 pixabay no attribution required.jpg
bottom of page