Roadside Verges and Roundabouts
Lleiniau Ymyl Ffordd a Chylchfannau
As a result of changes in farming practises, modernisation and development, species-rich mesotrophic grasslands, such as traditional hay meadows, have become very rare in NPT and are a dwindling resource in Wales in general. Roadside verges can fulfil a similar role for biodiversity if they are managed properly and although they are not a perfect solution they are becoming important refuges for grassland floras and the insects that live in them.
O ganlyniad i newidiadau mewn arferion amaethu, moderneiddio a datblygu, mae glaswelltiroedd mesotroffig cyfoethog eu rhywogaethau, megis gweirgloddiau traddodiadol, bellach yn brin iawn yn CNPT ac yn adnodd sy’n prinhau yng Nghymru yn gyffredinol. O’u rheoli’n gywir, gall lleiniau ymyl ffordd gyflawni rôl debyg o ran bioamrywiaeth ac er nad ydynt yn ateb perffaith, maen nhw’n dod yn noddfa bwysig i blanhigion glaswelltir a’r pryfed sy’n byw ynddynt.
Good examples in NPT include the verges along the A483 near Jersey Marine and Earlswood, the verges along Central Avenue near the Quays, the verges along Harbour Way near Margam and the Saltings Roundabout near Neath Abbey. In all these places, species like Ox-eye Daisy, Common Knapweed, Common Vetch, Bird’s-foot Trefoil, Red Clover and Meadow Buttercup make up colourful communities that are important resources for pollinators like bees, butterflies and hoverflies, as well as hosts of other insects such as beetles and grasshoppers. Of interest too is the increasing occurrence of salt-tolerant species like Danish Scurvey-grass, Lesser Sea-spurrey and Stag’s-horn Plantain along the edges of these verges. These species are typical of saltmarsh grasslands, but they have colonised roadside verge edges that have become enriched with salt from gritting in winter. Huge amounts of Danish Scurvy-grass appear along the A465 near Jersey Marine where the white and pale lilac flowers provide spectacular displays of spring colour. Other notable features of our verges include the outstanding display of Cowslips which occur on the Saltings Roundabout. More than 100 species of grassland plants grow here and include small amounts of the attractive Pyramidal Orchid.
The species-rich verge along the A483 near Jersey Marine has very conspicuous populations of Ox-eye Daisy and Bulbous Buttercup as well as occasional stands of Bee Orchid and Greater Burnet. Downy Oat-grass and Yellow Oat-grass occur among the more common False Oat-grass, Yorkshire Fog and Cock’s-foot. Both are comparatively uncommon in NPT but benefit from the calcareous sand that is found in the soils of our coastal verges.
Mae’r enghreifftiau da yn CNPT yn cynnwys y lleiniau ar ymyl yr A483 ger Jersey Marine ac Earlswood, y lleiniau ar hyd y Rhodfa Ganolog ger y Ceiau, ymylon Ffordd yr Harbwr ger Margam a Chylchfan Saltings ger Mynachlog Nedd  Yn yr holl fannau hyn, mae rhywogaethau megis y Llygad-llo Mawr, y Bengaled, y Ffacbysen, Pysen-y-ceirw, y Feillionnen Goch a Chrafanc Brân y Gweunydd yn ffurfio cymunedau lliwgar sy’n adnoddau pwysig ar gyfer pryfed peillio fel gwenyn, gloÿnnod byw a phryfed hofran, yn ogystal â llawer o bryfed eraill, megis chwilod a cheiliogod y rhedyn. Mae’n ddiddorol nodi hefyd bod rhywogaethau sy’n gallu goddef halen, fel Llwylys Denmarc, y Troellig Arfor Bach a Llyriad Corn y Carw i’w gweld fwyfwy ar ymylon y lleiniau hyn. Mae’r rhywogaethau hyn yn nodweddiadol o laswelltiroedd morfa heli, ond maen nhw wedi cytrefu ochrau’r lleiniau ymyl ffordd sydd wedi cael eu cyfoethogi gan halen yn sgîl gwaith graeanu dros y gaeaf. Mae niferoedd mawr iawn o Lwylys Denmarc yn ymddangos ar hyd yr A465 ger Jersey Marine lle mae’r blodau gwyn a lliw lelog gwan yn ffurfio sioe drawiadol o liwgar yn y gwanwyn. Nodweddion eraill y lleiniau ymyl ffordd sy’n werth eu nodi yw’r arddangosfa wych o Friallu Mair a geir ar Gylchfan Saltings. Mae mwy na 100 o rywogaethau o blanhigion glaswelltir yn tyfu yma, gan gynnwys nifer bach o’r Tegeirian Bera sydd mor ddeniadol.
Mae gan y llain gyfoethog ei rhywogaethau ar ymyl yr A483 ger Jersey Marine boblogaethau amlwg iawn o Lygaid-llo Mawr a Blodyn Ymenyn Bondew ynghyd ag ambell stribyn o Degeirian y Wenynen a’r Bwrned Mawr. Gwelir y Ceirchwellt Blewog a’r Ceirchwellt Melyn yn tyfu ymysg y Ceirchwellt Tal, y Maswellt Penwyn a Throed y Ceiliog sy’n fwy cyffredin. Mae’r ddwy rywogaeth hyn sy’n gymharol anghyffredin yn CNPT yn manteisio ar y tywod calchaidd sydd ym mhriddoedd ein lleiniau ymyl ffordd arfordirol.
Mae banciau o ymylon llawn blodau ar hyd y Rhodfa Ganolog, yn enwedig yn ymyl y draphont ger y rheilffordd. Mae llawer iawn o blanhigion Plucen Felen, sef bwyd y Glesyn Bach, yma gyda Phig-yr-aran y Gwrych, y Friwydd Felen, Briwydd y Clawdd, Arian y Gwair, Tafod y Llew, y Llygad Doli, yr Ytbysen Feinddail a nifer o rai eraill. Gwelir sioe debyg ar hyd ymylon Ffordd yr Harbwr yn yr haf, lle ceir hefyd boblogaeth hynod o’r Gorfanhadlen Walchlys sy’n parasiteiddio ar Dafod y Llew yno. Mae hon yn rhywogaeth brin iawn ym Mhrydain a’r poblogaethau yn CNPT yw’r unig rai yng Nghymru.
Caiff lleiniau ymyl ffordd CNPT eu rheoli fwyfwy er mwyn gwella eu hamrywiaeth o flodau gwyllt a phryfed peillio yn unol â chynllun Caru Gwenyn CNPT (gweler Caru Gwenyn CNPT).