Pant y Sais Fen and the Tennant Canal
Ffen Pant y Sais a Chamlas Tenant
Pant y Sais Fen is an area of reed-dominated wetland which has almost contiguous connectivity with Crymlyn Bog, the largest lowland fen in Wales. Combined, they make up one of the most important wetland habitats in south Wales.
Darn o wlyptir llawn corsydd yw Ffen Pant y Sais sydd, o ran cysylltedd, bron yn cydgyffwrdd â Chors Crymlyn, sef y ffen iseldir mwyaf yng Nghymru. Gyda’i gilydd mae’r ddau yn ffurfio un o’r cynefinoedd gwlyptir pwysicaf yn ne Cymru.
Crymlyn Bog has been designated as an internationally important Ramsar and SAC site.
Access to Pant y Sais is easy from the village of Jersey Marine, where a boardwalk circuit allows you to view some of its typical wildlife. In late spring and early summer you can view and listen to a variety of fenland birds such as Reed Warbler, Sedge Warbler, Grasshopper Warbler, Cetti’s Warbler and Reed Bunting. Water Rail are sometimes heard squealing in the reeds and even venture out on to the boardwalk now and then during quiet periods in the morning and evening. Common Lizards are occasionally seen basking on the boardwalk and Grass Snakes are sometimes spotted moving through the vegetation. Pant y Sais is also a good place to look for dragonflies and damselflies, including uncommon species such Hairy Dragonfly, Variable Damselfly, Scarce Blue-tailed Damselfly, Ruddy Darter and Black Darter.
Lots of colourful wetland plants inhabit the fen such as Bog Bean, Marsh Lousewort, Cross-leaved Heath and Ragged Robin. Insectivorous Sundew grows on the Bog Moss that occurs along the boardwalk and Blunt-flowered Rush is common in many places. Spectacular displays of Royal Fern and occasional clumps of Narrow Buckler-fern are very conspicuous in summer, and Pant y Sais is also one of the few wetland sites in Britain where the very rare Red Data Book species, Slender Cotton-grass, can be found.
Running along the side of Pant y Sais Fen and Crymlyn Bog, the Tennant Canal is an important wetland connectivity channel in NPT and is one of its most biodiverse freshwater habitats. Pike are common in the canal and aquatic plants like Mare’s-tail, Fan-leaved Crowfoot, Unbranched Bur-reed and water lilies are conspicuous here. The diverse emergent vegetation along its banks supports a colourful flora with Flowering Rush, Marsh Cinquefoil, Greater Spearwort, Yellow Iris, Purple Loosestrife, Yellow Loosestrife, and Great Willowherb. Also conspicuous along the banks of the canal are the huge leaves of Water Dock and large clumps of Greater Tussock-sedge, Greater Pond-sedge and Tufted Sedge. One of the most important members of the Tennant Canal fauna is the large, semi-aquatic Fen Raft Spider, which hunts on the surface of the water. Fen Raft Spiders are rare in Britain and the Tennant Canal population is the only one in Wales.
Dynodwyd Cors Crymlyn yn safle Ramsar o bwys rhyngwladol ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig.
Ceir mynediad hwylus i Bant y Sais o bentref Jersey Marine, lle mae llwybr pren cylchol yn caniatáu i ymwelwyr weld peth o fywyd gwyllt nodweddiadol y safle. Ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf gellir gweld a chlywed amrywiaeth o adar y ffen megis Telor y Cyrs, Telor yr Hesg, y Troellwr Bach, Telor Cetti a Bras y Cyrs. Weithiau mae Rhegennod Dŵr i’w clywed yn gwichian yn y cyrs a hyd yn oed yn mentro allan ar y llwybr pren bob nawr ac yn y man ar adegau tawel yn y bore a chyda’r nos. Ambell waith, gwelir Madfallod Cyffredin yn torheulo ar y llwybr pren ac weithiau gwelir Nadroedd y Gwair yn symud trwy’r llystyfiant. Mae Pant y Sais hefyd yn lle da i chwilio am weision y neidr a mursennod, gan gynnwys rhywogaethau anghyffredin fel Gwas y Neidr Blewog, y Fursen Las Amrywiol, y Fursen Dinlas Fach, y Wäell Rudd a’r Wäell Ddu.
Mae llawer o blanhigion gwlyptir lliwgar yn tyfu yn y ffen megis Ffa’r Gors, Melog y Waun, Grug Croesddail a Charpiog y Gors. Mae Gwlithlys Pryfysol yn tyfu ar y Migwyn a geir ar hyd y llwybr pren ac mae Brwyn Blaendon yn gyffredin mewn sawl man. Mae arddangosfeydd trawiadol o Redyn Cyfrdwy ac ambell glwstwr o  Farchredyn Cul yn amlwg iawn yn yr haf a Phant y Sais yw un o’r ychydig safleoedd gwlyptir ym Mhrydain lle gwelir Plu’r Gweunydd Eiddil, sy’n rhywogaeth brin iawn yn y Llyfr Data Coch.
Mae Camlas Tenant wrth ochr Ffen Pant y Sais a Chors Crymlyn yn sianel bwysig o ran cysylltu gwlyptiroedd yn CNPT ac mae’n un o’r cynefinoedd dŵr croyw mwyaf bioamrywiol yn y sir. Mae penhwyaid yn gyffredin yn y gamlas ac mae planhigion dyfrol fel Rhawn y Gaseg, Crafanc-y-frân Gwyntyllog, y Cleddlys Di-gainc a Lilïau’r Dŵr yn amlwg iawn yma. Mae’r llystyfiant amrywiol sy’n codi o’r dŵr ar hyd glannau’r gamlas yn cynnal fflora lliwgar gan gynnwys Brwyn Blodeuog, Pumnalen y Gors, y Llafnlys Mawr, Gellesg, Llysiau’r-milwr Coch, y Trewyn, a’r Helyglys Pêr. Yn ogystal, mae dail enfawr Tafol y Dŵr a chlystyrau mawr o’r Hesgen Rafunog Fawr, Hesgen y Dŵr Fawr a’r Hesgen Duswog i’w gweld yn amlwg ar lannau’r gamlas. Un enghraifft bwysig o ffawna Camlas Tenant yw Corryn Rafft y Ffen, sef corryn mawr, lled-ddyfrol sy’n hela ar wyneb y dŵr. Mae Corynnod Rafft y Ffen yn brin ym Mhrydain a’r boblogaeth ar Gamlas Tenant yw’r unig un yng Nghymru.