Gnoll Estate Country Park
Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
The Gnoll Estate, once the 18th century seat of the entrepreneurial Mackworth family, sits prominently on a low hill overlooking Neath town centre. With its wooded landscape, 4 lakes and spacious grassland, it is today an important resource of urban greenspace and a popular venue for the town’s residents and visitors. There is plenty of wildlife to see here at any time of year.
Mae Ystâd y Gnoll, a fu’n gartref i deulu entrepreneuraidd Mackworth yn y ddeunawfed ganrif, ar safle amlwg sy’n edrych dros ganol tref Castell-nedd. Gyda thirwedd goediog, 4 llyn a glaswelltir eang, mae’r parc heddiw yn fan gwyrdd trefol sy’n adnodd pwysig ac yn gyrchfan poblogaidd i breswylwyr ac ymwelwyr â’r dref. Mae digonedd o fywyd gwyllt i’w gweld yma ar bob adeg o’r flwyddyn.
Vehicle access to the Gnoll is easiest from the Fairyland entrance which takes you to a large pay and display car park and the nearby Visitor Centre. Alternatively, it can also be walked from Neath Town Centre, walking through the memorial gate and past the lower pond.
From the Visitor Centre you can take a leisurely walk around the large lake (the second pond) and a number of paths and trails from there will take you into the heart of the impressive Beech woods. There is plenty to keep young families interested, with the avenue of Horse Chestnut providing a plentiful supply of ‘conkers’ along the route to the old Mackworth House; the hollow Oak, surviving decades of children clambering around its hollow trunk and the plentiful clumps of frogspawn and tadpoles found throughout the many ponds and ditches in the Park. The lake always has lots of wildfowl, including Mute Swan, Coot, Moorhen, Little Grebe, Mallard, Tufted Duck and Goosander. On quiet mornings you may also see a Water Rail, a Heron or a Kingfisher and in spring there are usually occasional sightings of Common Sandpiper along the edges of the lake. A grassy bank on the southern perimeter of the lake usually has a spectacular display of Southern Marsh-orchids in early summer. At any time of year you may see Red Kite soaring above your head.
There are several magnificent specimen trees in the Beech woods, many of which must have been planted as part of the original Mackworth Estate. There is also lots of Hornbeam and smaller amounts of Norway Maple here and although none of these are native trees in this part of Wales, they provide an impressive woodland environment nonetheless. In autumn, woodland fungi such as the Wood Hedgehog, the Miller and the beautiful Orange Grisette can be found on the woodland floor, and in winter, flocks of Chaffinch with small groups of Brambling forage there for beech mast. Later in spring, Nuthatch can be heard whistling in the canopy while Greater Spotted Woodpecker drum on resonant tree trunks. Chiffchaff and Wood Warbler are among the summer migrants that breed here.
Fragments of ancient oak woodland still survive in the Dingle along Preswylfa Brook and in Mosshouse Wood, where Silver-washed Fritillary butterflies are occasional in summer and Purple Hairstreaks fly high in the woodland canopy. Spring displays of Bluebell can be impressive in these places, and you may also find other ancient woodland indicators such as Wood Anemone, Woodruff and Yellow Archangel. The little brooks and streams in these valleys are good places to look out for Grey Wagtail and Dipper.
From the Visitor Centre, there is an enjoyable walk to the upper Mosshouse lake, a disused reservoir surrounded by a quiet woodland bisected by an impressive, man-made cascade. Look out for Spotted Flycatcher hereabouts and listen out for trilling Wood Warbler. Pied Flycatcher have bred here in past years but have not been seen recently. En route to the old reservoir you will pass an area thick with birch and willow that has replaced a small plantation of Western Hemlock which was clear-felled not so long ago. The plot is quickly reverting back to deciduous woodland and is usually alive with birdsong from Willow Warbler, Whitethroat, Blackcap and Garden Warbler in late spring.
Bats are particularly active on warm summer nights around the second pond where there are roosts of Noctule and Daubenton’s bats. They are undoubtedly attracted by the large numbers of moths that fly at these times. Moth traps usually pick up a diversity of species in the park, which have included the uncommon Alder Kitten and Chocolate Tip, as well as larger, spectacular, hawkmoth species.
Y ffordd fwyaf hwylus i gerbydau gyrraedd y Gnoll yw trwy fynedfa Fairyland sy’n mynd â chi i faes parcio talu ac arddangos helaeth a’r Ganolfan Ymwelwyr gerllaw. Fel arall, mae modd cerdded yno o ganol tref Castell-nedd, gan fynd trwy’r porth coffa a heibio i’r pwll isaf.
O’r Ganolfan Ymwelwyr, gallwch gerdded yn hamddenol o amgylch y llyn mawr (yr ail bwll) lle bydd nifer o lwybrau yn eich arwain oddi yno i ganol y goedwig Ffawydd drawiadol. Mae digon o bethau i gynnal diddordeb teuluoedd ifanc, gyda rhodfa Castanwydd y Meirch sy’n darparu digonedd o ‘goncyrs’ ar hyd y ffordd at hen Dŷ Mackworth; y Dderwen geubren, sydd wedi goroesi degawdau o blant yn dringo drosti a’r clympiau helaeth o grifft broga a phenbyliaid sydd yn y pyllau a’r ffosydd niferus yn y Parc. Mae llawer o adar gwyllt ar y llyn bob amser, gan gynnwys Elyrch Dof, Cwtieir, Ieir Dŵr, Gwyachod Bach, Hwyaid Gwyllt, Hwyaid Copog a Hwyaid Danheddog. Ar foreau tawel fe allech chi hefyd weld Rhegen Ddŵr, Crëyr Glas neu Las y Dorlan ac yn y gwanwyn fel arfer, mae’n gyffredin gweld ambell Bibydd y Dorlan ar lan y llyn. Fel arfer, mae arddangosfa ysblennydd o Degeiriannau’r-gors Deheuol i’w gweld ar fancyn glas ar berimedr deheuol y llyn ar ddechrau’r haf. Gallech weld Barcud Coch yn hedfan uwch eich pen ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Mae nifer o goed enghreifftiol ardderchog yn y goedwig Ffawydd, a gafodd eu plannu, mae’n siŵr, fel rhan o Ystâd wreiddiol Mackworth. Hefyd, mae llawer o Oestrwydd a nifer llai o Fasarn Norwy yma ac er nad yw’r rhain yn goed brodorol yn y rhan hon o Gymru, maen nhw’n darparu amgylchedd coetir trawiadol serch hynny. Yn yr hydref, mae ffyngau coetir megis Pigau Draenog y Coed, Cap y Melinydd a’r Amanita Benfelen hardd ar lawr y coetir ac yn y gaeaf, mae heidiau o Ji-bincod ynghyd â grwpiau llai o Bincod y Mynydd yn fforio am gnau ffawydd yno. Yn hwyrach yn y gwanwyn, clywir Telor y Cnau yn chwibanu yn y canopi wrth i’r Gnocell Fraith Fawr guro ar foncyffion coed atseiniol. Mae’r Siff Siaff a Thelor y Coed ymhlith y mudwyr haf sy’n bridio yma.
Mae darnau o goetir derw hynafol yn dal i oroesi yn y Ceunant (Dingle) ar lan Nant Preswylfa ac yng Nghoed Mosshouse, lle gwelir ambell Frith Arian yn yr haf a lle mae Brithribiniau Porffor yn hedfan fry yng nghanopi’r coetir. Mae Clychau’r Gog yn drawiadol yn y mannau hyn a gallech hefyd weld rhai dangosyddion coetir hynafol eraill megis Blodyn y Gwynt, y Friwydd Bêr a’r Farddanhadlen Felen. Mae’r nentydd bach yn y dyffrynnoedd hyn yn fannau da i weld y Siglen Lwyd a Bronwen y Dŵr.
O’r Ganolfan Ymwelwyr, mae’n braf mynd am dro at lyn uchaf Mosshouse, sef hen gronfa ddŵr nas defnyddir sydd wedi’i hamgylchynu gan goetir tawel sydd wedi’i hollti gan raeadr ffug sylweddol ei maint. Edrychwch am Wybedog Mannog yma a gwrandewch ar drydar Telor y Coed. Bu’r Gwybedog Brith yn bridio yma yn y gorffennol ond nis gwelwyd yn ddiweddar. Ar eich ffordd at yr hen gronfa ddŵr, byddwch yn mynd heibio i ardal lle mae trwch o goed bedw a helyg wedi cymryd lle planhigfa fach o Hemlog y Gorllewin a gafodd ei llwyrgwympo yn weddol ddiweddar. Mae coetir collddail yn ailddatblygu’n gyflym ar y llain lle mae cân Telor yr Helyg, y Llwydfron, y Telor Penddu a Thelor yr Ardd yn llenwi’r lle tuag at ddiwedd y gwanwyn.
Ar nosweithiau cynnes o haf, bydd ystlumod yn arbennig o brysur o gwmpas yr ail bwll lle mae Ystlumod Mawr ac Ystlumod y Dŵr yn clwydo. Mae’n siŵr eu bod nhw’n cael eu denu gan y niferoedd mawr o wyfynod sy’n hedfan ar yr adegau hyn. Mae trapiau gwyfynod fel arfer yn dal amrywiaeth o rywogaethau yn y parc, sydd wedi cynnwys rhywogaethau anghyffredin Cathan y Gwernos a’r Blaen Brown, yn ogystal â rhywogaethau o walchwyfynod trawiadol a mwy o faint.