Conifer Plantations
Planigfeydd Conifferau
Woodland and scrub occupies about 40% of the land area of NPT and the greatest part of that is conifer plantation. Large blocks of conifer forest occur in Crynant, Rheola, Glyncastle, Margam and Afan Forest Park (which includes the Michaelston and Pelenna forests).
Coetir a phrysgwydd yw tua 40% o arwynebedd tir CNPT a phlanigfeydd conifferau yw’r rhan helaethaf o hynny. Ceir blociau mawr o goedwig gonwydd yn y Creunant, Rheola, Glyncastell, Margam a Pharc Coedwig Afan (sy’n cynnwys coedwigoedd Michaelston a Phelena).
There is free public access via forest gates to all these places, although parking may be limited and access may be restricted to some places at certain times of year when forestry operations are taking place. For those who like walking or cycling, there is lots of interesting wildlife which can be looked for along forest roads and old railway tracks. From the Afan Forest Park visitors centre near Cynonville, where there is a large pay and display car park, there are numerous tracks and trails that will allow you to experience the plantation environment. Nearby, at Rhyslyn (Pontrhydyfen), parking is free.
The mature forests in our plantations are mostly dominated by Sitka Spruce. They provide breeding habitat for birds like Crossbill, Lesser Redpoll, Siskin, Honey Buzzard, Common Buzzard and Goshawk, while conifer thickets and scrub areas have diverse bird assemblages that include Willow Warbler, Garden Warbler and Whitethroat. Clear-felled areas are important for their breeding populations of Nightjar and Tree Pipit in summer and the occasional Great Grey Shrike in winter. This habitat is also important for small mammals (e.g. voles) and reptiles. A leisurely, early morning walk along the forest roads in any of our plantations, will allow you opportunities to see and hear lots of birds and maybe spot a Fallow Deer.
Miles of forest roads and tracks cut through these plantations and the banks, ditches and verges along them provide habitats for a huge diversity of wildlife. Roadside verges are often rich in flowering plants, best walked on calm days in late spring and summer when you may see Small Pearl-bordered Fritillary, Brown Argus, Dingy Skipper and Small Heath butterflies, all of which are priority species in NPT. More commonly you will encounter large numbers of Common Blue, Ringlet and Meadow Brown. Later in summer, the Wild Angelica, Great Willowherb, Rosebay and Hemp Agrimony, which fill the tall herb layers, attract large numbers of hoverflies and bees, and large hawker dragonflies, particularly the Golden Ringed Dragonfly and the Southern Hawker, can often be seen patrolling their territories along the roadside edges. In high summer, Keeled Skimmer and Common Darter dragonflies are encountered commonly along forest roads.
Lots of priority plant species are found in our plantations, such as Ivy-leaved Bellflower which is usually found on banks above wet ditches with Bog Pimpernel and Lesser Skullcap, as well as Alpine, Fir and Stag’s-horn Clubmoss, which occur mainly in moorland and heathy habitats in the high plateaux areas. Amphibians such as Common Frog and Palmate Newt are frequently encountered in the small ponds that occur in plantations, along with Broad-bodied and Four-spotted Chaser dragonflies.
Darperir mynediad am ddim i’r cyhoedd trwy gatiau’r goedwig, ond gall fod prinder lleoedd parcio a gellir cyfyngu ar fynediad i rai mannau ar adegau penodol o’r flwyddyn pan fydd gwaith coed ar waith. I’r sawl sy’n hoff o gerdded neu feicio, mae llawer o fywyd gwyllt diddorol i’w weld ar hyd y ffyrdd coedwig a hen lein y rheilffordd. O ganolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan ger Cynonville, lle ceir maes parcio talu ac arddangos mawr, mae nifer o lwybrau yn caniatáu i chi fwynhau amgylchedd y blanhigfa. Mae modd parcio am ddim yn Rhyslyn (Pontrhydyfen) gerllaw.
Coed Sbriws Sitka yn bennaf sydd yn y fforestydd llawn dwf yn ein planigfeydd. Maen nhw’n gynefin bridio i adar megis y Gylfingroes, y Llinos Bengoch Fechan, y Pila Gwyrdd, Boda’r Mêl, y Bwncath a Gwalch Marthin, tra bod casgliadau o adar amrywiol yn y prysgwydd a’r dryslwyni conifferau, gan gynnwys Telor yr Helyg, Telor yr Ardd a’r Llwydfron. Mae ardaloedd wedi’u llwyrgympo yn bwysig ar gyfer poblogaethau o Droellwyr Mawr a Chorhedyddion y Coed sy’n bridio yno yn ystod yr haf ac ambell Gigydd Mawr yn ystod y gaeaf. Mae’r cynefin hwn yn bwysig hefyd ar gyfer mamaliaid bach (e.e. llygod pengrwn) ac ymlusgiaid. Drwy fynd am dro hamddenol yn gynnar yn y bore ar hyd ffyrdd coedwig mewn unrhyw rai o’n planigfeydd bydd cyfle i weld a chlywed nifer o adar a gweld ambell Ddanas o bosib.
Mae milltiroedd o ffyrdd a llwybrau coedwig yn croesi’r planigfeydd hyn ac mae’r cloddiau, y ffosydd a’r lleiniau ymyl ar hyd-ddynt yn gynefin i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Mae’r lleiniau ymyl ffordd yn aml yn gyforiog o blanhigion blodeuol a’r adeg orau i gerdded yno yw ar ddiwrnodau tawel rhwng diwedd y gwanwyn a’r haf pan allech chi weld y Fritheg Berlog Fach, yr Argws Brown, y Gwibiwr Llwyd a Gweirloÿnnod Bach y Waun, sydd i gyd yn rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT. Yn fwy cyffredin, byddwch yn dod ar draws nifer mawr o’r Glesyn Cyffredin, Iâr Fach y Glaw a Llwyd y Ddôl. Yn nes ymlaen yn yr haf, mae Llysiau’r Angel, yr Helyglys Pêr, yr Helyglys Hardd a’r Byddon Chwerw, sy’n llenwi’r haenau llysiau tal, yn denu nifer mawr o bryfed hofran a gwenyn, ac yn aml gellir gweld hebogwyr mawr, yn enwedig Gwas y Neidr Eurdorchog a Gwas Neidr y De, yn patrolio’u tiriogaeth ar hyd ochrau’r ffyrdd. Pan fydd yr haf yn ei anterth, mae gweision neidr y Picellwr Cribog a’r Wäell Gyffredin i’w gweld yn aml ar hyd y ffyrdd coedwig.
Mae llawer o blanhigion sy’n rhywogaethau â blaenoriaeth yn ein planigfeydd, megis y Clychlys Dail Eiddew, sydd i’w ganfod yn aml ar fanciau uwchlaw ffosydd gwlyb gyda Gwlyddyn-Mair y Gors a’r Cycyllog Bach, yn ogystal â’r Cnwp-fwsogl Alpinaidd, y Cnwp-fwsogl Mawr a’r Cnwp-fwsogl Corn Carw, a geir yn bennaf mewn cynefinoedd gweundir a rhostir iach ar y llwyfandiroedd uchel. Gwelir amffibiaid megis y Broga Cyffredin a’r Fadfall Ddŵr Balfog yn y pyllau bach sydd yn y planigfeydd, ynghyd â gweision neidr y Picellwr Praff a’r Picellwr Pedwar Nod.