The Vale of Neath Riparian Woodland Corridor
Coridor Coetir Glannau Afon Bro Nedd
The most diverse woodland flora in NPT is found in the ribbons of woodland that occur along the banks of the River Neath between Tonna and Glynneath. Wych Elm is a common component of these riparian woodlands, with Ash, Sycamore, Alder, Hazel and Small-leaved Lime.
Mae’r fflora coetir mwyaf amrywiol yn CNPT i’w canfod yn y rhubanau o goetir ar hyd glannau afon Nedd rhwng Tonna a Glyn-nedd. Mae’r Llwyfen Lydanddail yn gyffredin yn y coetiroedd hyn ar lannau’r afon, ynghyd â choed Ynn, Sycamorwydd, Gwern, Cyll a Phisgwydd Dail Bach.
The ground flora is made up of numerous ancient woodland indicator species such as Bluebell, Woodruff, Ramsons, Wood Anemone, Yellow Archangel, Pignut, Sanicle, Wood Speedwell and Toothwort, a diverse assemblage not seen in other types of woodlands in the county. Primroses are particularly common in some parts, and Great Wood-rush, Soft Shield-fern and Hard Shield-fern are often conspicuous. Common Twayblade is also seen occasionally.
There are numerous mosses and liverworts in these woodlands; Greater Featherwort, Lesser Featherwort, Hair pointed Feather-moss and Big shaggy-moss are characteristic species of the woodland floor, while Micheli’s Least Pouncewort, Western Pouncewort, Many-fruited Leskea and Blunt Feather-moss are the characteristic epiphytes on the trees along the riverside.
A significant population of Meadow Saxifrage occurs all along the banks of the river in the riparian corridor, and near Resolven, Marsh Hawk’s- beard occurs in one of its most southerly locations in Britain. The sandy, alluvial soils that accumulate on the banks of the river also support attractive tufts of Bordered Thyme-moss, which is generally uncommon elsewhere.
Dipper and Grey Wagtail are two of the most characteristic river birds in the Vale, but Common Sandpiper may also be seen bobbing in the shingle banks, where they make their nests. Kingfisher also breed here as do Spotted Flycatcher, which sit on riverside trees and dart out every now and then to catch insects. On fine evenings in summer you can watch Swallow, House Martin, Sand Martin and Swifts feeding over the river and if you are very lucky you may even spot an Otter. Goosander and Mandarin Duck are among other river birds that you might see.
Mae’r fflora daear yn cynnwys nifer o rywogaethau dangosol coetir hynafol megis Clychau’r Gog, Briwydd, Craf y Geifr, Blodau’r Gwynt, y Farddanhadlen Felen, Cneuen y Ddaear, Clust yr Arth, Rhwyddlwyn y Coed a’r Deintlys, casgliad amrywiol nas gwelir mewn mathau eraill o goetiroedd yn y sir. Mae Briallu yn arbennig o gyffredin mewn rhai mannau ac mae’r Goedfrwynen Fawr, y Wrychredynen Feddal a’r Wrychredynen Galed yn aml yn amlwg iawn. Gwelir y Caineirian o dro i dro hefyd.
Mae nifer o fwsoglau a llysiau’r afu yn y coetiroedd hyn; mae’r Dueglys Mawr, y Dueglys Bychan, Cirriphyllum piliferum a’r Hylocomiadelphus triquertrus yn rhywogaethau nodweddiadol ar lawr y coetiroedd, tra bo’r Llychlys Cyffredin, Llychlys y Gorllewin, Leskea polycarpa a Homalia trichomanoides yn epiffytau nodweddiadol ar goed ar lannau’r afon.
Ceir poblogaeth sylweddol o Dormaen y Gweunydd ar hyd glannau’r afon yn y coridor hwn, a ger Resolfen mae Gwalchlys y Gors yn tyfu yn un o’i leoliadau mwyaf deheuol ym Mhrydain. Mae’r pridd tywodlyd, llifwaddodol sy’n cronni ar lannau’r afon hefyd yn cynnal tuswau o’r Mnium marginatum deniadol sy’n anghyffredin ym mhobman arall.
Dau o’r adar afon mwyaf nodweddiadol yn y Dyffryn yw Bronwen y Dŵr a’r Siglen Lwyd, ond gellir gweld Pibyddion y Dorlan hefyd ar y cerrig mân ar ochrau’r afon lle maent yn nythu. Yn ogystal, mae Glas y Dorlan yn bridio yma, ynghyd â’r Gwybedog Mannog, sy’n eistedd yn y coed uwchlaw’r afon ac yn saethu allan bob hyn a hyn i ddal pryfed. Ar nosweithiau braf o haf gallwch wylio’r Wennol, Gwennol y Bondo, Gwennol y Glennydd a’r Wennol Ddu yn bwydo uwchben yr afon ac os byddwch yn lwcus iawn, fe allech chi weld Dyfrgi. Mae’r Hwyaden Ddanheddog a’r Hwyaden Fandarin ymhlith yr adar afon eraill y gallech eu gweld.