top of page

The Dulais Valley Marshy Grasslands

Glaswelltiroedd Corsiog Cwm Dulais

Species-rich marshy grasslands have suffered badly in Wales as a result of agricultural improvements, conifer afforestation, development, inappropriate management and neglect and, unfortunately, there are now few good examples of this extremely important habitat in NPT. However, some parts of the northern sector of the county, particularly in the Dulais and Aman Valleys, still retain marshy grasslands that support significant, biodiverse communities.

Mae glaswelltiroedd corsiog cyfoethog eu rhywogaethau wedi dioddef yn enbyd yng Nghymru o ganlyniad i welliannau amaethyddol, plannu coedwigoedd conifferau, datblygu, rheolaeth amhriodol ac esgeulustod, ac ychydig iawn o enghreifftiau da o’r cynefin eithriadol bwysig hwn sydd ar ôl yn CNPT, gwaetha’r modd. Fodd bynnag, mae rhai rhannau o sector gogledd y sir, yn enwedig yng Nghwm Dulais a Dyffryn Aman, yn dal i gynnwys glaswelltiroedd corsiog sy’n cynnal cymunedau bioamrywiol pwysig.

Between Crynant and Banwen a number of grazed marshy fields have survived against all the odds. In several of them there are populations of Petty Whin, Dyers Greenweed and Saw-wort, all of which have declined greatly in the county over the last 50 years. A few marshy fields in the vicinity of Blaendulais (Seven Sisters) are notable for their Marsh Fritillary colonies, which are monitored carefully by Butterfly Conservation and volunteers every year. An exemplary, pony-grazed field near Seven Sisters Rugby Club supports one of the most diverse marshy grassland flora in NPT. Species there include Devil’s-bit Scabious, Fen Bedstraw, Heath spotted-orchid, Butterwort, Marsh Valerian, Marsh Lousewort, Marsh Arrow-grass, Meadow Thistle, Whorled Caraway, Large-flowered Eyebright, Bog Pimpernel, Bog Asphodel, Creeping Forget-me-not, Tall Thyme-moss and Intermediate Hook-moss. Fen Bedstraw is a very scarce species in south Wales and its occurrence here is very significant. So too are the occurrences of Meadow Thistle, Marsh Lousewort and Butterwort, all of which have limited distributions in the county.


The widespread occurrence of Devil’s-bit Scabious in these meadows, in addition to their local connectivity and the presence in them of a diverse selection of nectar producing plants suitable for butterflies, has created conditions favourable for Marsh Fritillary meta-populations. The recovery of marshy grassland habitats in clear-felled Sitka Spruce coupes has also been successful in the Dulais Valley and this could open the way for a wider recovery of this endangered habitat in NPT.


Identifying, protecting and maintaining these habitats in a favourable condition is a crucial challenge for NPT’s nature recovery action plan. An important part of this will be the implementation of effective, sympathetic grazing regimes and the education of local communities and all concerned about the value of this endangered habitat in the county.


Rhwng y Creunant a’r Banwen, mae nifer o gaeau pori corsiog wedi goroesi er gwaethaf pawb a phopeth. Mewn nifer ohonynt ceir poblogaethau o Gracheithin, Melynog y Waun a Dant y Pysgodyn, sydd i gyd wedi prinhau’n sylweddol yn y sir yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae’n werth nodi bod cytrefi o Fritheg y Gors mewn ychydig o gaeau corsiog yng nghyffiniau Blaendulais, ac mae’r rhain yn cael eu monitro’n ofalus gan Gadwraeth Gloÿnnod Byw a gwirfoddolwyr bob blwyddyn. Enghraifft ragorol o hyn yw cae lle mae merlod yn pori ger Clwb Rygbi Blaendulais sy’n cynnal un o’r casgliadau mwyaf amrywiol o fflora glaswelltir corsiog yn CNPT. Ymhlith y rhywogaethau sydd i’w canfod yno mae Tamaid y Cythraul, Briwydd y Fign, Tegeirian Brych y Rhos, Tafod y Gors, Triaglog y Gors, Melog y Waun, Saethbennig y Gors, Ysgallen y Ddôl, y Garwy Droellennog, Effros Blodau Mawr, Gwlyddyn-Mair y Gors, Llafn y Bladur, y Sgorpionllys Ymlusgol, a mwsoglau Plagiomnium elatum a Scorpidium cossonii. Mae Briwydd y Fign yn rhywogaeth brin iawn yn ne Cymru ac felly mae ei phresenoldeb yma yn arwyddocaol iawn, fel y mae presenoldeb Ysgallen y Ddôl, Melog y Waun a Thafod y Gors, y mae dosbarthiad pob un ohonynt yn gyfyngedig yn y sir.


Mae’r ffaith fod Tamaid y Cythraul yn tyfu’n helaeth yn y dolydd hyn, ynghyd â chysylltedd lleol y dolydd a’r amrywiaeth o blanhigion sy’n cynhyrchu neithdar addas ar gyfer gloÿnnod byw, a geir ynddynt yn darparu amodau ffafriol ar gyfer metaboblogaethau o Fritheg y Gors. Hefyd, mae adfer cynefinoedd glaswelltir corsiog mewn llanerchau lle cafodd coed Sbriws Sitka eu llwyrgwympo wedi bod yn llwyddiannus yng Nghwm Dulais a gallai hyn arwain at adferiad ehangach y cynefin hwn sydd mewn perygl yn CNPT.


Bydd adnabod, amddiffyn a chadw’r cynefinoedd hyn mewn cyflwr ffafriol yn her allweddol o ran cynllun gweithredu adfer natur CNPT. Rhan bwysig o’r gwaith hwn fydd cyflwyno cyfundrefnau pori cydnaws ac effeithiol a dysgu cymunedau lleol a phawb sy’n ymwneud â nhw am werth y cynefin hwn sydd mewn perygl yn y sir.

Gallery

bottom of page