top of page

Afan Forest Park

Parc Coedwig Afan

This large park in the Afan Valley, 48 square miles in area, has lots of tracks and trails that allow visitors to experience nature at any time of year. A Visitor Centre is situated on the A4107 near Cynonville where there is a car park and other facilities including visitor information and refreshments. From here you can take a number of walks, many of which are suitable for families.

Mae’r parc mawr hwn yng Nghwm Afan, sy’n 48 milltir sgwâr o ran ei arwynebedd, yn cynnwys nifer o lwybrau a thrywyddau gwahanol sy’n caniatáu i ymwelwyr fwynhau natur ar bob adeg o’r flwyddyn. Lleolir Canolfan Ymwelwyr ar ffordd yr A4107 ger Cynonville lle mae maes parcio a chyfleusterau eraill gan gynnwys lluniaeth a gwybodaeth i ymwelwyr. O’r fan hon, gallwch ddilyn sawl llwybr, llawer ohonynt yn addas i deuluoedd.

One of the best and easiest will take you from the centre along a disused railway track, past the old Cynonville Halt towards Dyffryn Rhondda and Cymmer. Here, in spring and early summer, you can experience a chorus of birdsong from summer migrants like Willow Warbler, Chiff Chaff, Blackcap and Garden Warbler, as well as all the common resident species such as Great Tit, Blue Tit, Coal Tit, Nuthatch, Song Thrush, Blackbird and Robin. House Martins are frequently seen buzzing around in the mid-summer sky above Cynonville in the evenings.


The banks and ditches along this track are full of mosses and liverworts, with carpets of beautiful Shining Hookeria in places and tufts of Fingered Cowlwort, a tiny hyperoceanic liverwort, on the bark of willow trees. Between Cynonville and Dyffryn Rhondda there are some biodiverse grassy areas on the coaly spoil of the levelled Dyffryn Tip; these are the Dyffryn Rhondda Railway Meadows. Devil’s-bit Scabious is common in the large meadow, its flowers often visited by the handsome wasp mimic hoverfly, Sericomyia silentis. Other conspicuous flowering plants to note here are Southern Marsh-orchid, Chicory and Pearly Everlasting. Look out for Adder that are sometimes found basking on the woodpiles. They are shy creatures, not aggressive and will always seek to move quickly away from you if they are disturbed. On sunny days you will see lots of butterflies, including Dark Green Fritillary which are on the wing in late spring and early summer. Other things to note in the vicinity include a large population of Round-leaved Wintergreen and further along towards Cymmer there is an established heronry. Goosander are often seen flying along the river in this part of the Afan Valley.


Other areas of the forest park can be accessed from Rhyslyn, Gyfylchi, Abercregan, Glyncorrwg and Blaengwynfi. The Rhyslyn entrance in Pontrhydyfen has a large, free car parking area. Ash trees along the banks of the River Afan here have notable colonies of the Atlantic lichen, Sticta limbata, and little pools in the ditches along the tracks often have tadpoles and small numbers of Palmate Newts that usually predate them. Grey Wagtail and Dipper frequent the river hereabouts, where foamy water bounces off rocks covered in dark mossy cushions of River and Broadleaf Grimmia.


In many parts of the park large amounts of Japanese Larch became infected with Ramorum disease and have been removed. The clear-felled areas that have resulted from this have become occupied by Nightjar and Tree Pipits, and on balmy summer evenings the churring sound of male Nightjars can often be heard in the Pelenna Valley.


The River Afan has recovered significantly from the mine water pollution that turned its waters black and orange in the past. Now in much better condition, it is able to support populations of Brown Trout, Sea Trout and a run of Atlantic Salmon, although there are still issues with mine water pollution and eutrophication in some places.


Most of the park is dominated by large stands of Sitka Spruce where Siskin, Lesser Redpoll, Crossbill and Goshawk are found. These forests are often dark and sometimes impenetrable, but they have a large diversity of fungi which includes colourful species such as Fly Agaric and an assortment of Brittlegills like Ochre Brittlegill and the much rarer Russula fuscorubroides, one of NPT’s Priority Species.

Bydd un o’r llwybrau gorau a hawsaf yn eich tywys o’r ganolfan ar hyd yr hen reilffordd, heibio i Arhosfan Cynonville tuag at Ddyffryn Rhondda a’r Cymer. Yma, gallwch fwynhau côr yr adar yn ystod y gwanwyn a’r haf, sy’n cynnwys mudwyr haf fel Telor yr Helyg, y Siff Siaff, y Telor Penddu a Thelor yr Ardd, yn ogystal â’r holl rywogaethau preswyl cyffredin megis y Titw Mawr, Titw Tomos Las, y Titw Penddu, Telor y Cnau, y Fronfraith, yr Aderyn Du a’r Robin. Ganol haf, mae Gwenoliaid y Bondo i'w gweld yn hedfan yn brysur gyda’r nos.


Mae’r cloddiau a’r ffosydd ar hyd y llwybr hwn yn llawn mwsoglau a llysiau’r afu, gyda charpedi hardd o Hookeria Lucens mewn mannau a thuswau o’r Cwfl-lys Byseddog, sef math o lys yr afu pitw, hypergefnforol, ar risgl rhai o’r coed helyg. Rhwng Cynonville a Dyffryn Rhondda, mae Dolydd Rheilffordd Dyffryn Rhondda, sef llecynnau glaswelltog bioamrywiol ar rwbel glo Tomen y Dyffryn sydd wedi’i lefelu. Mae Tamaid y Cythraul yn gyffredin ar y ddôl fawr, lle mae’r pryfed hofran tebyg i wenyn meirch deniadol, Sericomyia silentis, yn ymwelwyr mynych. Mae planhigion blodeuol eraill sy’n werth eu nodi yn cynnwys Tegeirian-y-gors Deheuol, yr Ysgellog a’r Edafeddog Hirhoedlog. Cofiwch sylwi ar y Gwiberod sydd i’w gweld yn torheulo ar domenni coed o bryd i’w gilydd. Nid yw’r creaduriaid swil hyn yn ymosodol a byddant bob amser yn ceisio symud i ffwrdd yn gyflym os bydd rhywbeth yn tarfu arnyn nhw. Ar ddiwrnodau heulog, gallwch weld nifer o loÿnnod byw, gan gynnwys y Fritheg Werdd, sydd yn yr awyr ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf. Ymhlith nodweddion eraill gwerth eu nodi yn y cyffiniau, mae poblogaeth fawr o Lesyn-y-gaeaf Deilgrwn ac ymhellach ar hyd y llwybr tuag at y Cymer, mae crëyrfa wedi’i sefydlu. Yn aml, gellir gweld Hwyaid Danheddog yn hedfan ar hyd yr afon yn y rhan hon o Gwm Afan.


Gellir cael mynediad i rannau eraill o’r parc coedwig o Ryslyn, Gyfylchi, Abercregan, Glyncorrwg a Blaengwynfi. Mae maes parcio mawr di-dâl ger mynedfa Rhyslyn ym Mhontrhydyfen. Ceir cytrefi hynod o gen Iwerydd, Sticta limbata, ar goed ynn ar hyd glannau afon Afan yma, ac mae’r pyllau bach yn y ffosydd wrth ymyl y llwybrau yn aml yn cynnwys penbyliaid a niferoedd bach o’r Madfallod Dŵr Palfog sydd fel arfer yn eu bwyta. Mae’r Siglen Lwyd a Bronwen y Dŵr yn ymweld â’r afon yn yr ardal hon, lle mae dŵr ewynnog yn tasgu oddi ar greigiau lle ceir clustogau mwsoglyd o schistidium rivulare a schistidium platyphyllum.


Mewn sawl rhan o’r parc, mae nifer mawr o Larwydd Japan a gafodd eu heintio ag afiechyd Ramorwm wedi cael eu clirio. Mae’r ardaloedd sydd wedi’u llwyrgwympo o ganlyniad i’r gwaith hwn bellach yn gartref i’r Troellwr Mawr a Chorhedyddion y Coed ac yn aml ar nosweithiau braf o haf mae’r Troellwyr Mawr gwryw i’w glywed yn troelli yng Nghwm Pelenna.

Mae cyflwr afon Afan wedi gwella’n sylweddol ers y dyddiau pan fyddai llygredd dŵr o’r pyllau glo a’r mwyngloddiau yn troi ei dyfroedd yn ddu ac yn oren yn y gorffennol. Bellach, mae’r afon mewn cyflwr llawer gwell ac yn gallu cynnal poblogaethau o Frithyll, Sewin a rhediad Eog Iwerydd, er bod llygredd dŵr o’r pyllau glo a’r mwyngloddiau ac ewtroffigedd yn dal i achosi problemau mewn rhai mannau.


Mae clystyrau o goed Sbriws Sitka yn nodwedd amlwg iawn yn y rhan fwyaf o’r parc lle mae’r Pila Gwyrdd, y Llinos Bengoch Fechan, y Gylfingroes a Gwalch Martin i’w canfod. Mae’r coedwigoedd hyn yn aml yn dywyll ac weithiau’n ddyrys, ond mae amrywiaeth mawr o ffyngau yn tyfu ynddynt, gan gynnwys rhywogaethau lliwgar megis Amanita’r Gwybed a chasgliad o Degyll fel y Tegyll Brau Melyn a’r Russula fuscorubroides llawer prinnach, sy’n un o’r Rhywogaethau â Blaenoriaeth yn CNPT.

Gallery

bottom of page